Delwedd: Y Parlwr
Mae creadigaeth Gothig ardalydd Bute yng Nghastell Coch, â'i ystafelloedd lliwgar a'i leoliad hardd ynghanol coetir, yn ddelfrydol ar gyfer seremonïau bach. Cynhelir y seremonïau yn y Parlwr sydd â lle i hyd at 30 o bobl ar unrhyw adeg.
Mae Castell Coch ar gael ar gyfer seremoni sifil yn unig. Nid oes cyfleusterau ar gyfer neithior.
Rhaid i uchafswm y gwahoddedigion gynnwys y ddau gofrestrydd, y briodferch a'r priodfab, y ffotograffydd ac unrhyw gerddorion sy'n bresennol. Mae hwn yn ofyniad Iechyd a Diogelwch, ac ni ellir caniatáu eithriad.
Un digwyddiad yn unig a gaiff ei dderbyn yn y castell bob dydd.
Caniateir uchafswm o 90 munud ar gyfer pob seremoni. Mae hyn yn cynnwys 30 munud ar gyfer paratoi'r ystafell, 30 munud ar gyfer y seremoni, a 30 munud ar gyfer ffotograffau'r briodas yng nghwrt a thiroedd y castell.
Caiff y rhai sydd am archebu'r lle ar gyfer seremonïau eu hannog i sicrhau bod cofrestrydd ar gael i gynnal y seremoni cyn archebu dros dro. Gellir gwneud hyn drwy gysylltu â Swyddfa Gofrestru Caerdydd (ffôn 029 2087 1690).
Gallwn dderbyn archebion ar gyfer llogi Castell Coch yn ystod 2013 o 1 Chwefror 2012, sef 13 mis cyn y dyddiad. Er enghraifft, gellir cymryd archebion ar gyfer mis Mehefin 2013 o fis Mai 2012. Parheir i gymryd archebion ar gyfer 2011 trwy gydol y flwyddyn.
Ffïoedd Llogi
Codir y taliadau canlynol ar gyfer 2011 a 2012:
Dydd Llun i ddydd Gwener £550
Dydd Sadwrn a dydd Sul £650
Nodiadau