Delwedd: Castell Caerffili
Mae pedwar safle Cadw wedi'u trwyddedu i gynnal seremonïau sifil a gynhelir gan gofrestrydd awdurdod lleol, sef
Y rhain yw'r unig leoliadau lle y gellir cynnal priodas sifil neu seremoni partneriaeth sifil.
Gellir cynnal seremoni a neithior yng Nghastell Caerffili.
Ni ellir cynnal seremonïau priodasol crefyddol yn unrhyw un o safleoedd Cadw am eu bod yn henebion cofrestredig na ellir eu cysegru. Fodd bynnag, gellir llogi safle i fendithio priodas neu ar gyfer ffotograffau.
Ni ellir caniatáu codi a defnyddio pabell fawr ar unrhyw safle, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol. I gael rhagor o wybodaeth am delerau ac amodau, cysylltwch â'r tîm Gwasanaethau Ymwelwyr a Busnes ar 01443 336106.