Delwedd: Lleoliadiau ffotograffig
Mae croeso i ffotograffwyr masnachol a grwpiau amatur fel ei gilydd logi safleoedd Cadw ar gyfer sesiwn ffotograffig. Mae llawer o barau sy'n priodi yn dewis cofnodi eu diwrnod arbennig gan ddefnyddio un o'n safleoedd hanesyddol yn gefndir.
Os oes gennych ddiddordeb mewn llogi eiddo Cadw at ddibenion ffotograffig cysylltwch â'r Gwasanaethau Ymwelwyr a Busnes ar 01443 336103 a fydd yn rhoi manylion cyswllt staff lleol i chi. Taliadau ar gyfer ffotograffiaeth ar bob safle
Ffotograffiaeth fasnachol
Hanner Diwrnod Diwrnod Cyfan Oriau Ychwanegol
(4 awr) (4-8 awr) (yr awr)
£120.00 £150.00 £70.00
Grwpiau amatur
Codir tâl safonol o £50 y sesiwn, a'r tâl mynediad priodol ar gyfer pob aelod.
Ffotograffau priodasau a phartneriaethau sifil
Codir tâl safonol o £35 y sesiwn (i gynnwys fideo a ffotograffau) ar gyfer grwpiau o hyd at 20 o bobl.
Nodiadau
Rhaid i'r rhai sy'n gwneud cais am ffotograffiaeth gyffredinol ddarparu'r canlynol:
Caiff pob cais ei ystyried yn unigol, a chaiff ei asesu pan fo'r holl wybodaeth wedi dod i law. Mae'n debygol y bydd angen cynnal cyfarfod ar y safle ar gyfer digwyddiadau mwy; mae hyn yn golygu y dylid gwneud ceisiadau o leiaf fis cyn y dyddiad.
Argymhellir bod llogwyr yn ymweld â'r safle cyn gwneud unrhyw drefniadau. Gellir trefnu hyn drwy gysylltu â'r Gwasanaethau Ymwelwyr a Busnes ar 01443 336103.