Delwedd: Young Dracula - Castell Caerffili
Mae safleoedd Cadw yn lleoliadau ffilmio gwych. Mae Llys Tre-tŵr wedi ymddangos yn y ffilm The Libertine gyda Johnny Depp ac yn Restoration gyda Robert Downey Jnr a Meg Ryan. Mae Dr Who hefyd wedi glanio mewn sawl un o'n safleoedd!
Ymysg rhaglenni teledu eraill sydd wedi'u ffilmio ar safleoedd Cadw mae Coalhouse, a ffilmiwyd yng Ngwaith Haearn Blaenafon, Young Dracula, Sarah Jane Adventures, Merlin, Coast, Weatherman Walking a 100 Lle.
Os oes gennych ddiddordeb mewn llogi eiddo Cadw ar gyfer ffilmio cysylltwch â'r Gwasanaethau Ymwelwyr a Busnes ar 01443 336103.
Hafan / Llogi lleoliad / Ffilmio yn safleoedd Cadw / Taliadau
Taliadau am ffilmio / Ffilmio cyffredinol
Ffilmio cyffredinol
Nifer y criw Hanner diwrnod Diwrnod cyfan
ac actorion (6 awr) (12 awr)
£ £
1 - 5 220.00 440.00
6 - 15 485.00 750.00
16+ 750.00 1250.00
Isafswm ffi /Gwaith cwrs addysgol
£ £
DD/B 130.00
Eitemau newyddion a materion cyfoes
Ni chodir tâl am griw o dri neu lai, ar yr amod y gwneir cais ffurfiol ymlaen llaw.
Nodiadau
Rhaid i'r rhai sy'n gwneud cais am ffilmio ddarparu'r canlynol:
Caiff pob cais ei ystyried yn unigol, a chaiff ei asesu pan fo'r holl wybodaeth wedi dod i law. Mae'n debygol y bydd angen cynnal cyfarfod yn y safle cyn ffilmio; mae hyn yn golygu y dylid gwneud ceisiadau o leiaf fis cyn y dyddiad.
Argymhellir bod llogwyr yn ymweld â'r safle cyn gwneud unrhyw drefniadau. Gellir trefnu hyn drwy gysylltu â'r Gwasanaethau Ymwelwyr a Busnes ar 01443 336103.