Mae llawer o safleoedd mwyaf dramatig a rhamantaidd Cadw ar gael i'w llogi. Mae lleoliadau sy'n addas at bob math o ddigwyddiadau:
I gael gwybodaeth am logi eiddo Cadw cysylltwch â'r tîm Gwasanaethau Ymwelwyr a Busnes ar 01443 336106.
Gellir cynnal priodasau a seremonïau partneriaeth sifil yng Nghastell Coch ger Caerdydd, Castell Caerffili, Plas Mawr, Tŷ Trefol o oes Elisabeth yng Nghonwy, a Llys a Chastell Tre-tŵr ym Mannau Brycheiniog.
Mwy o wybodaeth »
Mae'r rhan fwyaf o safleoedd Cadw ar gael i'w llogi'n breifat, ond nifer fach yn unig sydd â mannau dan do, gan gynnwys y Neuadd Fawr yng Nghastell Caerffili, sy'n addas ar gyfer grwpiau o hyd at 200 o bobl, ac Oriel y Porthdy ym Mhlas Mawr, Tŷ Trefol o oes Elisabeth yng Nghonwy, sy'n addas ar gyfer hyd at 50 o bobl.
Mwy o wybodaeth »
Mae safleoedd Cadw yn lleoliadau ffilmio gwych. Mae Tre-tŵr wedi bod ymddangos yn y ffilm The Libertine gyda Johnny Depp ac yn Restoration gyda Robert Downey Jnr a Meg Ryan. Mae Dr Who hefyd wedi glanio mewn sawl un o'n safleoedd!
Mwy o wybodaeth »
Mae croeso i ffotograffwyr masnachol a grwpiau amatur logi safleoedd Cadw ar gyfer sesiwn ffotograffig. Mae llawer o barau sy'n priodi yn hoffi cofnodi eu diwrnod arbennig gan ddefnyddio un o'n safleoedd hanesyddol yn gefndir. Argymhellir archebu'n gynnar.
Mwy o wybodaeth »