Mynd i'r cynnwys

Llogi Lleoliad

Neithior yng Nghastell Caerffili
Neithior yng Nghastell Caerffili
Gwledd yn Llys Tre-tŵr
Gwledd yn Llys Tre-tŵr
Gwledd yng Nghastell Caerffili
Gwledd yng Nghastell Caerffili

Mae llawer o safleoedd mwyaf dramatig a rhamantaidd Cadw ar gael i'w llogi. Mae lleoliadau sy'n addas at bob math o ddigwyddiadau:

  • priodasau a seremonïau partneriaeth sifil
  • digwyddiadau a chyfarfodydd corfforaethol, cyngherddau, theatr, gwyliau a digwyddiadau ail-greu
  • ffilmio ar leoliad
  • sesiynau ffotograffig

I gael gwybodaeth am logi eiddo Cadw cysylltwch â'r tîm Gwasanaethau Ymwelwyr a Busnes ar 01443 336106.

Priodasau a Seremonïau Partneriaeth Sifil

Priodasau a Seremonïau Partneriaeth Sifil

Gellir cynnal priodasau a seremonïau partneriaeth sifil yng Nghastell Coch ger Caerdydd, Castell Caerffili, Plas Mawr, Tŷ Trefol o oes Elisabeth yng Nghonwy, a Llys a Chastell Tre-tŵr ym Mannau Brycheiniog.

Mwy o wybodaeth »

Llogi ar gyfer Digwyddiad

Llogi ar gyfer Digwyddiad

Mae'r rhan fwyaf o safleoedd Cadw ar gael i'w llogi'n breifat, ond nifer fach yn unig sydd â mannau dan do, gan gynnwys y Neuadd Fawr yng Nghastell Caerffili, sy'n addas ar gyfer grwpiau o hyd at 200 o bobl, ac Oriel y Porthdy ym Mhlas Mawr, Tŷ Trefol o oes Elisabeth yng Nghonwy, sy'n addas ar gyfer hyd at 50 o bobl.

Mwy o wybodaeth »

Ffilmio yn Safleoedd Cadw

Ffilmio yn Safleoedd Cadw

Mae safleoedd Cadw yn lleoliadau ffilmio gwych. Mae Tre-tŵr wedi bod ymddangos yn y ffilm The Libertine gyda Johnny Depp ac yn Restoration gyda Robert Downey Jnr a Meg Ryan. Mae Dr Who hefyd wedi glanio mewn sawl un o'n safleoedd!

Mwy o wybodaeth »

Ffotograffiaeth

Ffotograffiaeth

Mae croeso i ffotograffwyr masnachol a grwpiau amatur logi safleoedd Cadw ar gyfer sesiwn ffotograffig. Mae llawer o barau sy'n priodi yn hoffi cofnodi eu diwrnod arbennig gan ddefnyddio un o'n safleoedd hanesyddol yn gefndir. Argymhellir archebu'n gynnar.

Mwy o wybodaeth »