Ydych chi'n frwd dros Dreftadaeth?
Nid yw gwarchod ein treftadaeth a'n hamgylchedd wedi bod mor bwysig erioed. Ymunwch â'r nifer cynyddol o aelodau Cadw sy'n mwynhau ymweliadau diderfyn am ddim i dros 100 o gestyll, abatai, caerau a siambrau claddu. Drwy fod yn aelod o Cadw byddwch hefyd yn ein helpu i ddiogelu ein treftadaeth ar gyfer y dyfodol.
Fel aelod a werthfawrogir, byddwch yn cael:
Aelodaeth Oes
Dewch yn Aelod Oes neu'n Gyd-Aelod Oes i gael hawliau ychwanegol.
Yn ogystal â chael mynediad am ddim i'r safleoedd sydd yng ngofal Cadw, English Heritage, Historic Scotland a Manx National Heritage, gall Aelodau Oes/Cyd-Aelodau Oes fynd â'u plant o dan 16 mlwydd oed ac un oedolyn gwadd, am ddim.
Aelodaeth Rhodd
Mae rhodd o aelodaeth yn anrheg berffaith unrhyw adeg o'r flwyddyn.
Gallwn naill ai anfon y pecyn aelodaeth rhodd atoch chi neu at y derbynnydd a byddwn yn falch o gynnwys neges os dywedwch wrthym beth hoffech ei ddweud.
Drwy'r post: llwythwch ffurflen gais i lawr a'i chwblhau a'i hanfon i
Adran Aelodaeth Cadw
Rhadbost
CF1142/9
Caerdydd
CF24 5GZ
Dros y ffôn: Rhadffon 0800 0743121
Ar safle: siaradwch ag un o'n ceidwaid
Ar gyfer pob ymholiad ynghylch aelodaeth anfonwch neges e-bost i cadw@rmg-uk.co.uk neu ffoniwch Rhadffon 0800 0743121.