Mynd i'r cynnwys

Prosiectau

Prosiectau addysgol

Delwedd: Prosiectau addysgol

Caneuon y Cerrig

Yn dilyn rhaglen mis o hyd o weithgareddau diwylliannol ac artistig yng Nghastell Biwmares ac ar safleoedd cynhanesyddol ar draws Ynys Môn yn ystod mis Awst 2008, sefydlodd Cadw brosiect addysg cyffrous pum mlynedd o hyd yn 2009.

Mae'r prosiect hwn yn ffordd unigryw a diddorol o gyflwyno'r cwricwlwm sy'n seiliedig ar sgiliau yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt. Mae'n cynnig profiadau heriol a safonol dros gyfnod estynedig i'r athrawon a'r disgyblion sy'n cymryd rhan.

Mae'r athrawon a'r disgyblion yn cael hyfforddiant, meddalwedd, camerâu, a rostra i'w galluogi i greu ffilmiau byr wedi'u hanimeiddio sy'n dehongli safle hanesyddol ac a ysbrydolwyd ganddo. I greu'r ffilmiau wedi'u hanimeiddio mae angen cynllunio gofalus, gwaith ymchwil, creu trac sain, a sawl awr o animeiddio ffrâm wrth ffrâm.

Dangosir y ffilmiau wedi'u hanimeiddio mewn digwyddiad pwysig ar ddiwedd y flwyddyn yn yr ardal leol. Mae'r disgyblion a'r athrawon sy'n rhan o'r prosiect yn rhoi cyflwyniadau byr am eu cyfraniad i'r prosiect, a dangosir yr holl ffilmiau wedi'u hanimeiddio a grewyd yn ystod tymor yr haf.

Yn 2009, roedd y prosiect yn cynnwys pum ysgol gynradd yn Ynys Môn, a greodd ffilmiau wedi'u hanimeiddio yn canolbwyntio ar siambr gladdu Barclodiad y Gawres, siambr gladdu Bryn Celli Ddu, grŵp cytiau Din Llugwy, Llyn Cerrig Bach a Mynydd Parys.

Yn 2010, creodd pedair ysgol gynradd yn Sir Ddinbych a Sir y Fflint a grŵp ieuenctid Cymraeg ffilmiau wedi'u hanimeiddio a oedd yn dehongli cestyll canoloesol yng ngogledd-ddwyrain Cymru - Dinbych, Ewlo, y Fflint a Rhuddlan - ac a ysbrydolwyd ganddynt.

Yn 2011, roedd y prosiect yn cynnwys pum ysgol gynradd yn Sir Fynwy, Casnewydd a Phowys a oedd yn canolbwyntio ar safleoedd Rhufeinig yn ne-ddwyrain Cymru - Caer Aberhonddu, Caerllion, a Chaer-went.

Gallwch weld y ffilmiau wedi'u hanimeiddio a grëwyd gan ysgolion fel rhan o'r prosiect hwn ar wefan Caneuon y Cerrig neu ar sianel Youtube Cadw.

http://www.songsfromstones.co.uk/home/

http://www.youtube.com/user/cadwwales

Bydd y prosiect yn parhau yn 2012, gan ganolbwyntio ar safleoedd crefyddol yn ne-orllewin Cymru, ac yn 2013, gan ganolbwyntio ar gestyll yng ngogledd-orllewin Cymru.

Prosiect Adrodd Straeon a Llythrennedd

Mae dau brif amcan i'r prosiect adrodd straeon a llythrennedd. Y cyntaf yw rhoi'r adnoddau a'r technegau i athrawon i alluogi grwpiau dosbarth o ddisgyblion i greu a datblygu straeon ar y cyd. Yr ail yw defnyddio'r cestyll fel lleoliad ar gyfer adrodd straeon lleol traddodiadol, ac annog y disgyblion i werthfawrogi cestyll a hanes diwylliannol Cymru drwy ofyn iddynt archwilio, arsylwi a gwrando'n astud.

Ysbrydolwyd prosiect adrodd straeon a llythrennedd cyntaf Cadw gan Gastell Dolbadarn a Chastell Dinefwr yn 2009. Ar ôl diwrnod hyfforddiant i'r athrawon a oedd yn cymryd rhan yn y prosiect, ymwelodd disgyblion o ysgolion cynradd lleol â'r cestyll gyda storïwr. Gwrandawodd y plant ar chwedlau traddodiadol hudolus Cymreig ar y safleoedd hanesyddol atmosfferig, ac archwilio'r cestyll.

Ar ôl dychwelyd i'r ysgol, anogwyd y plant i feddwl beth sy'n gwneud stori dda a sut y caiff straeon eu creu. Gweithiodd y plant fel dosbarth cyfan, mewn grwpiau ac mewn parau i greu, golygu a mireinio stori wreiddiol eu dosbarth hwy.

Yn 2010, symudodd y prosiect i gestyll Caernarfon a Chas-gwent. Aeth y prosiect o nerth i nerth wrth i'r plant greu straeon hyfryd am gewri, dreigiau a dewiniaid drwg.

Yn 2011, roedd y prosiect yn canolbwyntio ar Gastell Cricieth a Llys a Chastell Tre-tŵr.

Gallwch ddarllen y straeon a chael gwybod mwy am y prosiect drwy ymweld â'r safleoedd blog.

http://dinefwranddolbadarn.blogspot.com/

http://castelldinefwr.blogspot.com/

http://caernarfonandchepstow.blogspot.com/