Ymweliadau Addysgol
Sut i archebu
Wyddech chi fod ymweliadau hunan-dywys â safleoedd Cadw am ddim i grwpiau addysgol? I drefnu eich ymweliad am ddim, dilynwch y camau syml hyn:
- Ffoniwch y safle i holi a yw ar gael ar y dyddiad yr hoffech ymweld. (Cliciwch yma am rhestr o rifau ffôn a chyfeiriadau'r safleoedd)
- Unwaith y byddwch wedi cytuno ar ddyddiad ac amser, bydd y rhan fwyaf o safleoedd yn parhau â'ch archeb dros e-bost. Os na allwch drefnu dros e-bost, gallwch lawrlwytho ac argraffu copi o'r ffurflen archebu (gweler isod), a dychwelyd y ffurflen wedi'i chwblhau i'r safle yr hoffech ymweld ag ef.
- Dylech sicrhau eich bod wedi ticio'r blwch ar y ffurflen archebu i gadarnhau eich bod wedi darllen telerau ac amodau ymweliadau addysgol Cadw ac yn cytuno â hwy. Rhowch 'ymweliad addysgol' ar yr amlen.
- Rydym hefyd yn cynnig rhaglenni addysg rhyngweithiol mewn safleoedd dethol. Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen Diwrnodau Darganfod ar y dde.