Telerau ac amodau
Mae Cadw yn cynnig ymweliadau addysgol am ddim i grwpiau ysgol, coleg a phrifysgol, addysgwyr cartref, grwpiau addysg oedolion, grwpiau Archeolegwyr Ifanc, a grwpiau o sefydliadau sy'n cynnig rhaglen adsefydlu feddygol/cymdeithasol sefydledig.
Caiff myfyrwyr cyfnewid ymweliadau am ddim cyn belled â'u bod yn rhan o raglen cyfnewid a drefnwyd. Dylid gwneud cais trwy'r ysgol letyol neu'r sefydliad addysgol.
Bydd grwpiau addysgol yn cael mynediad am ddim i safleoedd Cadw cyn belled ag y bodlonir yr amodau canlynol:
• bod y grwpiau ysgolion a cholegau yn cael eu haddysgu mewn sefydliad addysgol yn yr Undeb Ewropeaidd, a bod yr ymweliad yn cael ei drefnu o leiaf 10 diwrnod gwaith o flaen llaw
• bod y ffurflen archebu yn cael ei llenwi gan arweinydd y grŵp. Ni fydd Cadw yn derbyn ffurflenni archebu wedi'u llenwi gan drefnwyr teithio neu unrhyw drydydd parti ar ran grwpiau addysgol
• bod grwpiau addysgol oedolion yn rhan o awdurdod addysg lleol, prifysgol, Prifysgol y Drydedd Oes, Cymdeithas Addysg y Gweithwyr neu ddarpariaeth debyg wedi'i hysbysebu
• bod yr ymweliad yn digwydd yn ystod y tymor ac o fewn oriau arferol yr ysgol/coleg. Ni cheir mynediad am ddim ar benwythnosau, nac ar Wyliau Banc na Gwyliau Cyhoeddus
• bod y grŵp yn cyrraedd o fewn hanner awr i'r amser a drefnwyd ar gyfer yr ymweliad. Efallai na fydd mynediad yn bosibl i grwpiau sy'n cyrraedd ar ôl yr amser hwn
• bod disgyblion a myfyrwyr yn cael eu goruchwylio drwy gydol yr ymweliad, yn unol â'r cymarebau athrawon i ddisgyblion canlynol: 1:2 ar gyfer plant dan 5 oed; 1:6 ar gyfer plant 5-7 oed; 1:10 ar gyfer plant 8-16 oed, ac 1:15 ar gyfer plant 16+ oed
• bod o leiaf un swyddog cymorth cyntaf cymwys yn dod gyda phob grŵp ysgol.
Noder:
Weithiau mae tywydd anffafriol yn golygu bod safleoedd yn cau ar fyr rybudd. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir ond nid yw'n bosibl rhoi rhybudd o flaen llaw i athrawon yn yr achosion prin hynny.
Mae gan staff safleoedd Cadw hawl i ofyn i grwpiau adael y safle os bydd ymddygiad aelodau'r grŵp yn aflonyddu ar ymwelwyr eraill neu'n peryglu iechyd a diogelwch unrhyw unigolyn neu unigolion ar y safle.