Mynd i'r cynnwys

Dysgu i Oedolion a'r Teulu

Dysgu i oedolion a'r teulu

Delwedd: Dysgu i oedolion a'r teulu

 

Gwyliau Treftadaeth, Celfyddydau a Chrefftau
Mae Gwyliau Treftadaeth, Celf a Chrefft yn cynnig cyfle i ddysgu mwy am y safleoedd yn ein gofal, dysgu am hanes, a rhoi cynnig ar amrywiaeth o weithgareddau celf a chrefft. Yn y gorffennol mae digwyddiadau wedi cynnwys hanes byw, gwersi cerddoriaeth, cerfio carreg, gwneud printiau, stampio lledr, ffeltio, gweithdai celf, teithiau tywys, nyddu a gwehyddu, adrodd straeon, darlithoedd, gwaith coed gwyrdd, creu gemwaith, ysgrifennu creadigol a theithiau ffotograffiaeth.

Cynhelir Gwyliau 2012 yn ystod Gŵyl Archeoleg Prydain ym mis Gorffennaf, yng Nghastell Biwmares; Castell Dinbych;  Castell Talacharn, Abaty Nedd, Plas Mawr o Oes Elizabeth, Conwy: Castell Rhuddlan, Abaty Tyndyrn a Llys a Chastell Tre-tŵr. Am ragor o wybodaeth, ewch i dudalennau digwyddiadau Cadw.
Os hoffech gymryd rhan mewn digwyddiadau yn y dyfodol - fel darparwr gweithgaredd neu fel dysgwr - cysylltwch â ni dros e-bost Cadw.education@wales.gsi.gov.uk.

 

Cyrsiau i Oedolion
Cyflwynir darlithoedd hanes yn ne Cymru mewn partneriaeth â'r Rhwydwaith Dysgwyr Celtaidd. Ceir gwybodaeth am y lleoliadau a'r darlithoedd ar wefan y Rhwydwaith Dysgwyr Celtaidd: http://www.celticlearnersnetwork.org.uk/cadw.htm neu ar ein tudalennau digwyddiadau.

Am ragor o wybodaeth am gyfleoedd dysgu eraill i oedolion, cysylltwch â ni dros e-bost Cadw.education@wales.gsi.gov.uk.

 

Dysgu i Deuluoedd
Cynhelir digwyddiadau dysgu i deuluoedd ar amryw o safleoedd Cadw drwy'r flwyddyn. I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau sydd ar gael yn eich ardal, cysylltwch â ni dros e-bost Cadw.education@wales.gsi.gov.uk.