Cestyll a Muriau Tref Edward I yng Ngwynedd

Castell Caernarfon

Castell Caernarfon

Arysgrifwyd ym 1986

Arweiniodd penderfyniad Brenin Edward I o Loegr, a gyhoeddwyd ar 17 Tachwedd 1276, i fynd yn erbyn Llywelyn, tywysog Cymru, fel rebel ac aflonyddwr ar yr heddwch, at raglen adeiladu cestyll yng ngogledd Cymru o'r radd flaenaf. Yn ystod yr ugain mlynedd nesaf dechreuodd Edward adeiladu wyth castell newydd a chyflawnodd y gwaith bron yn gyfangwbl.

Y gwychaf o'r wyth castell newydd oedd Biwmares, Caernarfon, Conwy a Harlech, pob un ar safleoedd ar arfordir gogledd-orllewin Cymru. Roedd dau o'r rhain, Caernarfon a Chonwy, yn gysylltiedig â threfi newydd wedi'u hamgáu o fewn muriau anferth a adeiladwyd yr un amser â'r cestyll. Mae'r pedwar castell gwych hwn a dwy gyfres o furiau tref ar y cyd yn llunio safle Treftadaeth y Byd. Dechreuwyd a chwblhawyd y gwaith ar bob un i raddau helaeth yn ystod y cyfnod rhwng 1283 a 1330, er y gwnaed llawer o'r gwaith cyn 1300.

Adeiladwyd y cestyll yn Harlech a Biwmares ar ffurf cynllun consentrig, â nodweddion cyffredin i'r ddau ond wedi'u haddasu i amodau gwahanol y safleoedd - tir gwastad ym Miwmares a phentir creigiog anferth yn Harlech. Y nodwedd hanfodol ym mhob achos oedd clostir mewnol caeëdig o fewn llenfur uchel, yr aed i mewn iddo drwy borthdy a amddiffynwyd yn gryf a'i atgyfnerthu â chyfres o dyrrau bargodol. Y tu allan roedd cyfres o amddiffynfeydd allanol, wedi'u haddasu yn ôl natur y safle ac yn cynnwys ward allanol, llenfur allanol a ffos ddofn, un sych yn achos Harlech ac un llawn dŵr yn achos Biwmares.

Mewn gwrthgyferbyniad, roedd y cestyll yng Nghaernarfon a Chonwy yn gaerau hir, pob un â phâr o wardiau cyfagos wedi'u hamgylchynu â llenfur uchel a thyrau bargodol. Ehangwyd yr amddiffynfeydd gan fur anferth yn amgylchynu'r dref, unwaith eto â phorthdai â dau dŵr yn y prif fynedfeydd a thyrau bargodol bob hyn a hyn.

Cafodd y cestyll eu cynllunio i fod yn ganolfannau llywodraeth ac yn symbolau o bŵer yn ogystal ag yn gadarnleoedd gwarchodlu. Y brenin ei hun oedd y grym yn llywio'r prosiect. Roedd y cyfrifoldeb o drefnu a chyfarwyddo'r gwaith yn ystod y blynyddoedd hanfodol gan y Safwyad, James of St George. Y canlyniad, yn unigol ac ar y cyd, yw'r enghraifft orau sydd wedi goroesi o bensaernïaeth filwrol diwedd y drydedd ganrif ar ddeg yn Ewrop, gan gynnwys y castell consentrig lled berffaith ym Miwmares; yr ymgorfforiad pŵer yng Nghaernarfon; y castell a leolwyd i ddominyddu croesfan hanfodol yr afon yng Nghonwy; ac ar ei graig â mynyddoedd Eryri yn gefndir, y castell canoloesol ar ei ffurf mwyaf pictiwrésg yn Harlech.

Chwaraeodd y cestyll eu rhan yn hanes dilynol y wlad, ond ar y cyfan, o ganlyniad i gydberthnasau gwell rhwng Cymru a Lloegr, roedd eu hanes yn un o gyfnodau hir o esgeulusdod â chyfnodau achlysurol o weithgarwch dwys megis adeg gwrthryfel Glyndŵr ar ddechrau'r bymthegfed ganrif ac yn ddiweddarach pan gadwyd meddiant arnynt ar ran y brenin yn erbyn y senedd yn y Rhyfel Cartref yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg. O ganlyniad maent wedi goroesi'n bur gyflawn.

Mae llawer o'r ddogfennaeth sy'n gyfoes â'r cyfnod hefyd wedi goroesi ac mae'n rhoi elfen ddynol i'r hanes sydd i'w weld yn y meini. Rydym yn gwybod yn fanwl pwy weithiodd ar y cestyll, o ble roeddent yn dod (o bron bob rhan o Gymru a Lloegr) a faint roeddent yn cael eu talu.

Mae Cadw yn ymrwymedig i wella mynediad i'r safleoedd ym Miwmares, Caernarfon, Conwy a Harlech a'r dehongliad ohonynt. Caiff manylion gwaith newydd eu rhoi ar y wefan.

Ceir rhagor o wybodaeth am gestyll a muriau trefi Edward I yng Ngwynedd ar wefan UNESCO, yn cynnwys y datganiad o Werth Cyffredinol Eithriadol.