Mynd i'r cynnwys

Henebion

Castell Caernarfon

Delwedd: Castell Caernarfon

Mae'r angen i ddiogelu'r enghreifftiau gorau o henebion wedi'i gydnabod ers amser maith mewn deddfwriaeth. Dechreuwyd diogelu henebion yn statudol yn 1882 pan basiwyd y Ddeddf Diogelu Henebion gyntaf a oedd yn diogelu 50 o henebion ym Mhrydain Fawr. Rhoddwyd diogelwch ehangach i henebion ac olion archeolegol o bwys cenedlaethol ar ôl hynny ac fe'i rheolir bellach gan Ddeddf Henebion ac Ardaloedd Archeolegol 1979.

Mae Deddf 1979 yn darparu'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer diogelu henebion ac fe'i hategir gan ganllawiau yng Nghylchlythyr 60/96 y Swyddfa Gymreig.  Mae'r Ddeddf hefyd yn ymdrin ag eiddo sydd dan ofal uniongyrchol Llywodraeth Cymru ac a reolir gan Cadw.  

 

Cofrestru

O dan Ddeddf 1979 mae Gweinidogion Cymru, drwy Cadw, yn llunio Cofrestr o Henebion. Mae'r henebion ar y Gofrestr o bwys cenedlaethol ac maent yn cynnwys amrywiaeth eang o safleoedd archeolegol. Gall rhai enghreifftiau fod wedi'u claddu'n gyfan gwbl o dan ddaear a dim ond drwy waith cloddio archeolegol y byddwn yn dod i wybod amdanynt.  Mae eraill yn llawer mwy amlwg ac maent yn cynnwys adfeilion mawr cestyll ac abatai canoloesol enwog sy'n sefyll.  Yr enghraifft hynaf y gwyddom amdani yw ogof naturiol - y cafwyd ei bod yn cynnwys y dystiolaeth gynharaf o bobl yng Nghymru - sy'n dyddio'n ôl chwarter miliwn o flynyddoedd. Ym mhen arall y sbectrwm ceir strwythurau milwrol sy'n dyddio o'r ugeinfed ganrif. Mae henebion cofrestredig yn aml mewn cyflwr adfeiliedig neu led-adfeiliedig neu maent ar ffurf cloddwaith.  Fel arfer diogelir strwythurau mwy cyflawn o bwys cenedlaethol fel adeiladau rhestredig.    

Mae dros 4,000 o henebion bellach wedi'u cofrestru ledled Cymru ac mae'r nifer yn cynyddu fel rhan o bolisi bwriadol parhaus i ychwanegu at y Gofrestr. Nod y rhaglen ychwanegu hon yw sicrhau bod y Gofrestr yn cynnwys yr enghreifftiau gorau o bob math o henebion yng Nghymru sydd o bwys cenedlaethol.

Mae pob un o'r mathau mwy adnabyddus o henebion bellach wedi'i asesu ar gyfer ei gofrestru ac erbyn diwedd 2011 byddwn wedi cwblhau'r gwaith o asesu pob safle hysbys sy'n dyddio o'r cyfnod cynhanesyddol a'r cyfnod Rhufeinig.