Mynd i'r cynnwys

Gwneud Newidiadau i'ch Eiddo

Gwneud Newuidiadau i'ch Eiddo

Delwedd: Gwneud Newidiadau i'ch Eiddo

Os ydych yn berchen ar adeilad rhestredig neu heneb gofrestredig, mae angen caniatâd penodol os ydych am wneud newidiadau.  Yn achos adeiladau rhestredig, mae angen cael caniatâd adeilad rhestredig gan yr awdurdod lleol ar gyfer gwneud newidiadau, sy'n cynnwys gwaith dymchwel neu estyniadau, neu gan Lywodraeth Cymru yn achos adeiladau awdurdod lleol. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau i alw ceisiadau i mewn a phenderfynu ar apeliadau. Mae angen cael caniatâd heneb gofrestredig gan Cadw ar ran Gweinidogion Cymru i wneud gwaith i henebion cofrestredig. Mae trefniadau arbennig (eithriad eglwysig) ar waith ar gyfer addoldai rhestredig yng ngofal un o chwech enwad eithriedig.

Efallai y bydd angen caniatadau ar gyfer eiddo mewn ardaloedd cadwraeth ac o fewn cwmpas Safle Treftadaeth y Byd hefyd - bydd swyddog cadwraeth eich awdurdod lleol yn gallu rhoi cyngor i chi.