Delwedd: Grantiau
Mae Cadw yn cynnig grantiau i berchenogion ac eraill fel cyfraniad tuag at gostau atgyweirio ac adfer asedau hanesyddol yn ogystal ag arian cyfatebol tuag at brosiectau a gaiff eu harwain gan gymunedau, awdurdodau lleol a'r trydydd sector. Bydd Cadw yn ystyried cynnig grantiau i'r canlynol:
Mae'r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn rhoi grantiau untro yn 2012-13 ar gyfer gwaith cyfalaf mewn addoldai rhestredig. Mae'r Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol yn gweinyddu cyfran o arian ar ffurf rhaglen grantiau agored ar gyfer addoldai rhestredig nad yw Eglwys Loegr yn gofalu amdanynt. Caiff cyfran arall ei gweinyddu gan Eglwys Loegr drwy ei hesgobaethau.
Mae manylion y rhaglen bellach ar gael ar wefan yr Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol yn
http://nationalchurchestrust.org/supporting-you/grants/community-grants-new.php
. Mae grantiau ar gael ar gyfer gwaith cyfalaf newydd e.e. estyniadau, cyfleusterau megis cegin a thoiledau, gwresogi ac ati); nid yw gwaith atgyweirio na chynnal a chadw ar adeiladwaith presennol yn gymwys.
Mae'r arian sydd ar gael yn gyfyngedig, a chan fod angen hawlio a thalu'r holl grantiau o dan y rhaglen erbyn 31 Mawrth 2013, gwahoddir ceisiadau i'r rhaglen o nawr tan 30 Awst 2012. Caiff penderfyniadau eu gwneud ym mis Mai, Hydref a Rhagfyr eleni.