Mynd i'r cynnwys

Cymorth, Cyngor a Grantiau

Abaty a Phorthdy Nedd
Abaty a Phorthdy Nedd

Mae'r amgylchedd hanesyddol yn rhan allweddol o dreftadaeth a thraddodiadau Cymru. Mae gan berchnogion a'r rheini sy'n gyfrifol am eiddo hanesyddol y fraint o chwarae eu rhan yn yr hanes. Mae Cadw wedi llunio cyngor a chanllawiau i helpu os ydych yn gyfrifol am eiddo hanesyddol a gallech fod yn gymwys i gael grant mewn rhai achosion. Ar gyfer eiddo a ddiogelir â dynodiad statudol, efallai y bydd angen caniatâd arnoch i wneud unrhyw newidiadau. Mae'r adran hon yn rhoi rhagor o fanylion.

Grantiau

Grantiau

Mae Cadw yn cynnig grantiau i berchnogion ac eraill i gyfrannu at gostau atgyweirio ac adnewyddu asedau hanesyddol.  Rhoddir blaenoriaeth i brosiectau a fydd yn sbarduno cyfleoedd adfywio neu i asedau mewn perygl.

Mwy o wybodaeth »

Gwneud Newidiadau

Gwneud Newidiadau

Os ydych yn berchen ar adeilad rhestredig neu heneb gofrestredig, mae angen caniatâd penodol os ydych am wneud newidiadau.

Mwy o wybodaeth »

Gofalu am eich Eiddo

Gofalu

Mae asedau hanesyddol yn eiddo i amrywiaeth o berchnogion - cyhoeddus a phreifat, crefyddol a seciwlar, y trydydd sector, llywodraeth leol a chanolog.  Mae gan bob perchennog gyfrifoldebau i ofalu ar ôl yr asedau sydd ganddo.

Mwy o wybodaeth »

Cynnal a Chadw!

Cynnal a Chadw!

Mae'n debyg mai gwaith cynnal a chadw rheolaidd yw'r peth pwysicaf y gallwch ei wneud i ddiogelu eich adeilad hanesyddol. Gall gwefan Cynnal a Chadw! Cadw eich helpu gydag awgrymiadau a chyngor, a chynllun cynnal a chadw ar-lein y gallwch ei deilwra ar gyfer eich adeilad.

Mwy o wybodaeth »