Mynd i'r cynnwys

Canllawiau Technegol

Canllawiau Technegol

Delwedd: Canllawiau Technegol

Mae Cadw yn cynhyrchu rhai dogfennau cyngor technegol arbenigol ar ofalu am eiddo hanesyddol a'i warchod.

Cynhyrchwyd dogfennau defnyddiol eraill gan English Heritage, Historic Scotland a'r Gymdeithas Diogelu Adeiladau Hynafol.

Canllawiau Arfer Gorau

Mae Cadw wedi cynhyrchu nifer o gyhoeddiadau i helpu perchnogion a deiliaid i ofalu am eu heiddo yn y ffordd orau bosibl. Maent yn egluro pwysigrwydd mathau gwahanol o adeiladau hanesyddol a henebion ac yn awgrymu ffyrdd y gellir eu rheoli a'u cynnal a'u cadw er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu diogelu er budd cenedlaethau'r dyfodol.

Cynnal a Chadw!

Mae'n debyg mai gwaith cynnal a chadw rheolaidd yw'r peth pwysicaf y gallwch ei wneud i ddiogelu eich adeilad hanesyddol. Gall gwefan Cynnal a Chadw! Cadw eich helpu gydag awgrymiadau a chyngor, a chynllun cynnal a chadw ar-lein y gallwch ei deilwra ar gyfer eich adeilad.