Mynd i'r cynnwys

Cadwraeth

Abaty Tyndyrn
Abaty Tyndyrn
Croes Caeriw
Croes Caeriw
Llys yr Esgob Tyddewi
Llys yr Esgob Tyddewi

Mae Cadw yn ymrwymedig i warchod yr eiddo yn ei ofal - sy'n cynnwys rhai o'r safleoedd gorau a mwyaf arbennig yng Nghymru - i'r safon uchaf posibl.

Rydym am gefnogi ac annog eraill i gyrraedd yr un safonau uchel er mwyn sicrhau y caiff asedau hanesyddol eu gwarchod ledled Cymru.

Rydym yn hyrwyddo arferion sy'n sicrhau bod y gwaith o reoli asedau hanesyddol yn cydymffurfio â safonau proffesiynol ac arfer gorau modern - gan gynnwys mabwysiadu Egwyddorion Cadwraeth Cadw ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol yng Nghymru.

Rydym yn gweithredu ar y cyd â phartneriaid i hybu sgiliau cadwraeth ac adeiladu a darparu cyfleoedd hyfforddiant, ac rydym yn datblygu ac yn targedu ein cyngor, ein canllawiau a'n grantiau i hyrwyddo cadwraeth, gwaith cynnal a chadw neu 'werth ychwanegol' cynaliadwy arall.


Egwyddorion Cadwraeth

Egwyddorion Cadwraeth

Cyhoeddodd Cadw Egwyddorion Cadwraeth ym mis Mawrth 2011. Byddwn yn defnyddio'r egwyddorion hyn i roi arweiniad i ni wrth wneud gwaith ar y 127 o henebion yn ein gofal yng Nghymru. Byddant hefyd yn rhoi arweiniad wrth i ni ystyried y ceisiadau am ganiatâd a grantiau a gyflwynir i ni gan eraill.

Mwy o wybodaeth »

Cadwraeth ar Safleoedd Cadw

Cadwraeth ar Safleoedd Cadw

Rydym yn gofalu am rai o'r safleoedd hanesyddol pwysicaf yn y byd a'n nod yw sicrhau y cyflawnir gwaith cadwraeth o'r radd flaenaf. Mae gennym raglen dreigl o waith cadwraeth i gadw henebion er mwynhad cenedlaethau'r dyfodol.

Mwy o wybodaeth »

Cyrsiau Hyfforddi a Dolenni

Cyrsiau Hyfforddi a Dolenni

Mae Sylfeini mewn Treftadaeth yn gynllun bwrsariaeth sy'n cynnig cyfleoedd i weithio ochr yn ochr ag adeiladwyr medrus ym maes treftadaeth ac ennill cymhwyster NVQ lefel 3 mewn Sgiliau Treftadaeth (adeiladu).

Mwy o wybodaeth »

Canllawiau Technegol

Canllawiau Technegol

Gall gwefan Cynnal a Chadw! Cadw eich helpu gydag awgrymiadau a chyngor, a chynllun cynnal a chadw ar-lein y gallwch ei deilwra ar gyfer eich adeilad. Mae Cadw hefyd wedi cynhyrchu cyhoeddiadau i helpu perchnogion a deiliaid i ofalu am eu heiddo yn y ffordd orau bosibl.

Mwy o wybodaeth »