Mae’r amgylchedd hanesyddol wrth wraidd diwylliant Cymru ac mae ei gymeriad yn cyfrannu at ein hymdeimlad o le a hunaniaeth ddiwylliannol.
Mae'n gwella ansawdd bywyd ac yn ychwanegu at natur unigryw ardaloedd. Mae'n ased economaidd a chymdeithasol bwysig. Mae'n hanfodol y caiff yr amgylchedd hanesyddol ei werthfawrogi, ei ddiogelu a'i wneud yn hygyrch ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol.
Dewiswch opsiwn i ddangos pynciau cysylltiedig:
Nodwch derm neu eiriau allweddol chwilio ...
Mae Cadw yn cynnig grantiau i berchnogion ac eraill i gyfrannu at gostau atgyweirio ac adnewyddu asedau hanesyddol. Rhoddir blaenoriaeth i brosiectau a fydd yn sbarduno cyfleoedd adfywio neu i asedau mewn perygl.
Mwy o wybodaeth »Mae'n debyg mai gwaith cynnal a chadw rheolaidd yw'r peth pwysicaf y gallwch ei wneud i ddiogelu eich adeilad hanesyddol. Gall gwefan Cynnal a Chadw! Cadw eich helpu gydag awgrymiadau a chyngor, a chynllun cynnal a chadw ar-lein y gallwch ei deilwra ar gyfer eich adeilad.
Mwy o wybodaeth »