Mynd i'r cynnwys

Digwyddiadau yng Nghymru

Crochanau a Ffwrneisi yng Nghastell Caernarfon
Crochanau a Ffwrneisi yng Nghastell Caernarfon
Ffair Ganoloesol yng Nghastell Caerffili
Ffair Ganoloesol yng Nghastell Caerffili
Saethyddion yng Nghastell Rhaglan
Saethyddion yng Nghastell Rhaglan
Hyfforddiant saethyddiaeth yng Nghastell Rhaglan
Hyfforddiant saethyddiaeth yng Nghastell Rhaglan
Harlech Castle
Castell Harlech

O olygfeydd naturiol ysblennydd i safleoedd henebion trawiadol, mae gan dirweddau hanesyddol ac archaeolegol Cymru rywbeth i bawb. P'un a ydych yn deulu sy'n chwilio am hwyl, neu'n gwpl sy'n edrych am le rhamantus i gael picnic, mae digon o bethau i'w gwneud yng Nghymru sy'n addas i bob oedran. Dewiswch o raglen orlawn o fwy na 200 o ddigwyddiadau a diwrnodau allan ledled Cymru bob blwyddyn, gan gynnwys gweithgareddau arbennig, teithiau, sgyrsiau, hanes byw a pherfformiadau byw. Mae llawer wedi'u cynnwys ym mhris eich tocyn. Os ydych yn bwriadu dod am dro i Gymru, edrychwch ar ein Lleolwr Digwyddiadau i weld beth sy'n digwydd ar safle yn agos atoch chi. Mae digwyddiadau Cadw yn ystod y dydd am ddim i aelodau oni nodir yn wahanol.

Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu postio. Gallwch gadarnhau dyddiadau ac amseroedd y digwyddiadau drwy gysylltu â’r safle yn uniongyrchol.

Pob digwyddiad

Digwyddiadau diweddaraf

Pob digwyddiad

Y 3 Gorau i Deuluoedd

Gŵyl Archaeoleg - Ymosodiad Rhufeinig!

Gŵyl Archaeoleg - Ymosodiad Rhufeinig!

Dewch i weld gwrthrychau Rhufeinig go iawn a dysgwch y gwirionedd diddorol am sut roeddent yn byw drwy gwrdd â nhw yn bersonol. Ymgollwch yng ngolygfeydd, synau ac arogleuon bywyd yn ystod y cyfnod; cewch gwrdd â meddyg Rhufeinig, arogli coginio Rhufeinig, neu roi cynnig ar ein cloddiad dirgel.

Mwy o wybodaeth »

Gŵyl Archaeoleg - Y Fyddin a’r 40au