Am dros 900 o flynyddoedd mae Llys a Chastell Tre-tŵr wedi’i altro, ei addasu a’i ddiwygio. Gwnaed llawer o’r gwaith hwn i gyd-fynd â steil, ffasiwn a chwaeth y cyfnod.
Roedd y teuluoedd Picard a Vaughan a fu’n byw yma yn deuluoedd cyfoethog a dylanwadol yng Nghymru yn y cyfnod. Roedd angen lle arnynt i greu argraff. Roedd y llety moethus a grëwyd ganddynt yn adlewyrchu eu statws pwysig fel bonedd Cymreig.
Pan adawodd teulu Vaughan yn y 18fed ganrif, daeth Llys Tre-tŵr yn fferm weithiol a newidiodd o fod yn gartref i foneddigion a boneddigesau i fod yn gartref i ŵyn a gwyddau!
Nawr, yn yr 21ain ganrif, rydym wedi ail-greu cyfres o ystafelloedd fel y byddent wedi ymddangos yn 1470 pan oedd y teulu Vaughan ymysg bonedd Cymru. Cewch weld ffordd soffistigedig o fyw: o ddodrefn wedi’u cerfio’n gain i lestri a sosbenni cegin weithiol. Cewch weld bywyd yn y 15fed ganrif ar ei orau.
Dyddiadau
29 Mawrth - 31 Hydref 2013
Amseroedd
Bob dydd 10.00am - 5.00pm
Mynediad olaf 30 munud cyn cau
Prisiau
Oedolyn - £4.75
Teulu - £14.25*
Pensiynwyr, myfyrwyr a phlant o dan 16 - £3.60
Pobl anabl a chydymaith - Am ddim/Free
*2 oedolyn a phob plentyn o dan 16 oed
Prisiau’n ddilys tan 31 Mawrth 2014
Gweld yr holl amseroedd agor a phrisiau »Cod post NP8 1RD
Ffordd Arwyddion ym mhentref Tre-tŵr, oddi ar yr A479 5km/3mllr i’r gogledd-orllewin o Grucywel
Rheilffordd 18km/11mllr Y Fenni, Manceinion/Lerpwl-Y Fenni/Caerdydd
Bws 400m/430llath, llwybr rhif X43, Aberhonddu-Y Fenni
Beic NCN Llwybr Rhif 8 (8km/5mllr)
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0871 200 2233 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 08457 48 49 50