Ardal o harddwch eithriadol a ategir gan yr adeilad cain hwn o garreg. Pe bai’r muriau ond yn gallu siarad! Mae llafarganu’r mynachod yn atseinio drwy’r muriau yma. Er gwaethaf y ffaith bod cragen y strwythur crand hwn yn agored i’r elfennau, dyma’r abaty canoloesol sydd wedi goroesi orau yng Nghymru. Er i eglwys yr abaty gael ei hail-adeiladu o dan nawdd Roger Bigod, arglwydd Castell Cas-gwent gerllaw, ar ddiwedd y 13eg ganrif, mae cynllun gwreiddiol yr abaty i’w weld o hyd.
Tyndyrn oedd yr ail abaty Sistersaidd ym Mhrydain, a’r cyntaf yng Nghymru. Mae’r olion a welir heddiw yn gymysgedd o waith adeiladu sy’n cwmpasu cyfnod o 400 o flynyddoedd rhwng 1131 a 1536. Ychydig iawn o olion yr adeiladau cyntaf sydd wedi goroesi ond cewch eich rhyfeddu gan y ffenestri enfawr a’r cyfoeth o fanylion addurniadol a geir ar y muriau, y pyrth a’r bwaon uchel.
Rhannwyd tir yr abaty yn unedau amaethyddol neu faenorau yr oedd brodyr lleyg yn gweithio arnynt.
Ar 3 Medi 1536, ildiodd yr Abad Wyche Abaty Tyndyrn i swyddogion Brenin Harri’r VIII a, chyda hynny, daeth ffordd o fyw a oedd wedi para 400 o flynyddoedd i ben.
Mae Abaty Tyndyrn yn llawn bwrlwm 500 mlynedd yn ddiweddarach! Mae rhaglen fawr o waith cadwraeth a barodd ddwy flynedd wedi’i chwblhau ar y wyneb gorllewinol eiconig o’r 13eg ganrif – un o ryfeddodau mawr pensaernïaeth Gothig ym Mhrydain. Mae’r cerflun o Mair a’r Plentyn wedi’i osod yn ystlys ddeheuol yr abaty i bawb ei weld.
Dyddiadau
1 Mawrth - 30 Mehefin 2013
Amseroedd
Bob dydd 9.30am - 5.00pm
Mynediad olaf 30 munud cyn cau
Prisiau
Oedolyn - £4.50
Teulu - £13.50*
Pensiynwyr, myfyrwyr a phlant o dan 16 - £3.40
Pobl anabl a chydymaith - Am ddim/Free
*2 oedolyn a phob plentyn o dan 16 oed
Cod post NP16 6SE
Ffordd O Gaerdydd M4, Cyff 23, M48, Cyff 2, A466. O Lundain M4, Cyff 21 i’r M48.
Rheilffordd 7km/4mllr Cas-gwent, Caerdydd - Cas-gwent/Caerloyw.
Bws 300m/325llath, llwybr Rhif 69, Cas-gwent - Trefynwy.
Beic NCN Llwybr Rhanbarthol 32 (250m/276llath).
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0871 200 2233 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 08457 48 49 50.