Wedi'i lleoli ar ddyffryn serth, byddai'r ardal hon wedi bod yn ddymunol iawn yn ystod y cyfnod Neolithig. Mae nant gerllaw, pridd da ar gyfer tyfu cnydau a digon o gerrig addas ar gyfer gwneud offer ac adeiladu beddrodau. Credwn fod y garreg laid ar gyfer y Siambr wedi dod o'r ardal gerllaw a elwir 'Y Chwarel'.
Mae'r siambr yn edrych yn eithaf gwahanol erbyn hyn. Yn wreiddiol byddai wedi'i gorchuddio â thwmpath o bridd. Fodd bynnag, mae'n rhoi syniad da o sut y cafodd y beddrodau hyn eu gosod. Gallwch weld amlinelliad hirsgwar y twmpath gyda'i ragfur allanol, ynghyd â'r blaengwrt llydan. Mae hwn yn arwain at gell unigol (siambr) lle daethpwyd o hyd i'r cyrff, ynghyd â chrochenwaith toredig a fflint gweithiedig.
Ailadeiladwyd rhannau o'r safle ar ôl ei gloddio yn 1914. Rhoddwyd piler ategol yn y siambr ac ailadeiladwyd y waliau allanol gan ddefnyddio patrwm saethben nodedig.
Mae nifer o chwedlau am y beddrod wedi datblygu dros y blynyddoedd. Y chwedl fwyaf adnabyddus o'r rhain yw y bydd unrhyw un sy'n treulio noson ar y safle hwn ar Galan Mai, Dydd Sant Ioan (23ain Mehefin), neu Ddiwrnod Canol Gaeaf yn marw, yn mynd yn wallgof neu'n dod yn fardd. Dywed rhai mai'r gr?p o glogfeini i'r de o'r heneb yw merched a drodd yn garreg am ddawnsio ar y Saboth: thema gyffredin mewn llên gwerin.
Dyddiadau
31 Mawrth 2012 - 31 Mawrth 2013
Amseroedd
Bob dydd 10.00am - 4.00pm
Prisiau
Oedolyn - Am ddim/Free
Teulu - Am ddim/Free
Pensiynwyr, myfyrwyr a phlant o dan 16 - Am ddim/Free
Pobl anabl a chydymaith - Am ddim/Free
Ffordd 3/4m (1.2km) i’r De o Sain Nicolas, oddi ar yr A48, 6m (9.7km) i’r Gor. De Orll. o Gaerdydd
Rheilffordd Parc Waun-gron 41/2m (7.2km)