Mae popeth am y lle hwn yn fawreddog, o’i dŵr mawr, sy’n dwyn cestyll cynharach fel Caernarfon i gof, i’r porthdy mawr, sy’n creu cryn argraff ar yr ymwelydd fel y bwriadai ei berchennog. Castell pawb ei dŷ ac roedd hynny’n wir i William Herbert.
Yn fwy o ddatganiad o gyfoeth nag o bresenoldeb milwrol, llwyddodd serch hynny i wrthsefyll lluoedd Oliver Cromwell am dair wythnos ar ddeg, yn un o warchaeau olaf y Rhyfel Cartref. Cipiwyd y castell yn y pen draw a’i ddinistrio’n systematig gan y senedd. Ond mae’n ddigon cyflawn o hyd i greu argraff.
Dechreuwyd ar y gwaith o adeiladu Rhaglan yn y 1430au, cyfnod cymharol hwyr o ran adeiladu cestyll. Tua 150 mlynedd yn hwyr! Er gwaethaf hyn, sicrhaodd cyfleusterau modern fel ffenestri mawr â physt fod yr adeilad yn un cyfoes a bod yr ystafelloedd yn fôr o oleuni. Y ffenestr oriel, ffenestr grom heb ei hail, yw un o nodweddion amlycaf Rhaglan.
Roedd yn taflu goleuni ar y bwrdd uchel ar esgynlawr y neuadd. Roedd gan Raglan oriel hir hefyd, un o nodweddion bywyd ffasiynol cyfnod y Tuduriaid.
Roedd yn hanfodol cael paneli pren wedi’u cerfio’n goeth ac mae panel Tuduraidd Rhaglan a ddarganfuwyd wedi iddo fod ar goll yn cael ei arddangos yn ein canolfan i ymwelwyr. Rydym hefyd yn falch o’n defnydd o dechnoleg Bluetooth. Gallwch ddefnyddio eich ffôn symudol i lawrlwytho straeon llafar er mwyn cael cipolwg ar fywyd yn y castell.
Mae'r Bwtri sydd y tu ôl i'r Neuadd Fawr wedi ailagor i'r cyhoedd. Dewch i weld lle y ffilmiwyd pennod o Merlin gan y BBC.
Dyddiadau
1 Mawrth - 30 Mehefin 2013
Amseroedd
Bod dydd 09.30am - 5pm
Mynediad olaf 4.30pm
Prisiau
Oedolyn - £4.50
Teulu - £13.50*
Pensiynwyr, myfyrwyr a phlant o dan 16 - £3.40
Pobl anabl a chydymaith - Am ddim/Free
*2 oedolyn a phob plentyn o dan 16 oed
Prisiau’n ddilys tan 31 Mawrth 2014
Gweld yr holl amseroedd agor a phrisiau »Cod post NP15 2BT
Ffordd Ar yr A40 gan ddilyn yr arwyddion i Raglan.
Rheilffordd Casnewydd 30km/19mllr llinellau Caerdydd-Bryste, Birmingham, Llundain a Manceinion.
Bws 11km/7mllr Trefynwy, llwybr Rhif 60, Casnewydd-Trefynwy. Bob 2 awr yn ddyddiol.
Beic Llwybr Rhanbarthol Rhif 30 (1km/0.6mllr).
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0871 200 2233 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 08457 48 49 50.