Oes Elisabeth. Oes aur? Y Dadeni, Shakespeare…a Phlas Mawr. Trysor o oes Elisabeth – gwerth ei bwysau mewn aur. Y tŷ trefol gwychaf o’i gyfnod ym Mhrydain.
Roedd ei berchennog Robert Wynn, masnachwr dylanwadol uchel ei barch, yn arbennig o hoff o fawredd a lliw. Roedd hefyd yn hoff o westeia – ac yn ŵr hael! Ac yn goron ar y cyfan, tŷ crand a adeiladwyd rhwng 1576 a 1585 yng nghanol strydoedd coblog cul tref ganoloesol Conwy. Tŷ a oedd yn bodloni ei ddyheadau mawr.
Yr hyn sy’n arbennig o wych yw’r gwaith plastr addurniadol yn y neuadd, sydd bellach wedi’i ail-baentio yn ei liwiau llachar gwreiddiol. Mae pob rhan o’r tŷ yn creu argraff, o’r gwaith plastr ar y nenfydau i’r ffrisiau a’r gwaith coed gwych. Chwiliwch am y llythrennau ‘RW’ sy’n ymddangos yn yr arfbeisiau... rhag ofn i chi anghofio pwy oedd meistr y tŷ a’r gŵr oedd yn talu’r biliau.
Pe bai cyfoeth yn cael ei fesur yn ôl ffasiwn, roedd yr uchelwr hwn o Gymro a oedd wedi gweld y byd yn hynod gyfoethog.
Mae arddangosiadau aml-synhwyrol ar gael sy’n rhoi gwybodaeth fanylach am hanes Plas Mawr. Rydym yn eich argymell i fanteisio i’r eithaf ar ein technoleg sgrîn-gyffwrdd!
Am fwy o wybodaeth am bethau i'w gweld a'u gwneud yn yr ardal ewch i www.attractionsofsnowdonia.com/cymraeg
Dyddiadau
29 Mawrth - 30 Medi 2013
Amseroedd
Mawrth i Sul 9.00am - 5.00pm
Ar gau ar ddydd Llun heblaw am benwythnosau Gŵyl y Banc
Mynediad olaf 45 munud cyn cau
Prisiau
Oedolyn - £5.75
Teulu - £17.25*
Pensiynwyr, myfyrwyr a phlant o dan 16 - £4.35
Pobl anabl a chydymaith - Am ddim/Free
*2 oedolyn a phob plentyn o dan 16 oed
Cod post LL32 8DE
Ffordd Conwy ar yr A55 neu’r B5106.
Rheilffordd 2km/1.3mllr Cyffordd Llandudno neu 0.6km/0.4mllr Gorsaf Conwy, ar lwybr Crewe-Cyffordd Llandudno/Caergybi.
Bws 200m/220 llath, llwybr Rhif 5, Caernarfon - Conwy/Llandudno
Beic NCN Llwybr Rhif 5 (150m/164llath).
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0871 200 2233 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 08457 48 49 50.