Rhyfelgyrch Gwyr Harlech. Yn ôl y sôn, mae anthem answyddogol y genedl, un o hoff ganeuon cefnogwyr rygbi a bandiau catrodol fel ei gilydd, yn disgrifio’r gwarchae hiraf yn hanes Prydain (1461-1468) a welwyd yma yn ystod Rhyfeloedd y Rhos. Adeiladwyd model ‘muriau o fewn muriau’ llwyddiannus Edward yn gyflym iawn rhwng 1283 a 1295 gan fyddin o bron i fil o grefftwyr a llafurwyr medrus.
Dim ond y seiri maen gorau o Savoy a ddefnyddiai Edward, a’r seiri coed a’r gofaint gorau o Loegr. Ar y pryd, dyma oedd un o gestyll rhataf Edward. Bargen am ddim ond £8,190.
Mae’r strwythur, a oruchwyliwyd gan feistr gwaith y brenin, James of St. George, yn cynnwys dau gylched o furiau a thyrau a phorthdy dwyreiniol hynod gryf. Roedd hi’n amhosibl codi gwarchae o unrhyw gyfeiriad bron. Ei arf cudd oedd grisiau 200 troedfedd (61m) o hyd sy’n dal i arwain o’r castell at waelod y clogwyn.
Roedd y mynediad i lawr y grisiau i’r môr a chyflenwadau hanfodol yn sicrhau bod bwyd a dŵr ar gael i’r rheini a oedd o dan warchae. Pan gafodd ei adeiladu gyntaf, byddai sianel wedi cysylltu’r castell a’r môr. Gellid bod wedi hwylio cwch i fyny hyd at y ffos. Saith can mlynedd yn ddiweddarach, mae’r llanw wedi cilio ac ymddengys fel pe bai’r castell wedi’i adael ar ôl, yn aros i’r llanw droi unwaith eto.
Am fwy o wybodaeth am bethau i'w gweld a'u gwneud yn yr ardal ewch i www.attractionsofsnowdonia.com/cymraeg
Dyddiadau
1 Mawrth - 30 Mehefin 2013
Amseroedd
Bob dydd 9.30am - 5.00pm
Mynediad olaf 30 munud cyn cau
Prisiau
Oedolyn - £4.25
Teulu - £12.75*
Pensiynwyr, myfyrwyr a phlant o dan 16 - £3.20
Pobl anabl a chydymaith - Am ddim/Free
*2 oedolyn a phob plentyn o dan 16 oed
Cod post LL46 2YH
Ffordd A496 o’r Bermo, A487/A496 o Borthmadog.
Rheilffordd 200m/220llath, llwybr Amwythig- Machynlleth/Pwllheli.
Bws 150m/170llath, llwybr Rhif 38, y Bermo-Harlech/Blaenau Ffestiniog.
Beic NCN Llwybr Rhif 8 Ar y Llwybr.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0871 200 2233 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 08457 48 49 50.