Mynd i'r cynnwys

Castell Dinbych

Castell Dinbych

Nodwedd wychaf Castell Dinbych yw ei borthdy mawr gyda’i dri thŵr trawiadol.

Am ennyn diddordeb hanesydd? Soniwch am borthdy mawr tri thŵr Castell Dinbych. Un o saith rhyfeddod Cymru, mae’n siŵr. Trawiadol – yn sicr! Yn sefyll ar gopa bryn serth uwchben y dref ganoloesol, mae’r castell bellach dan warchodaeth Cadw.

Gyda thros hanner milltir o furiau tref, mae Castell Dinbych yn gaer glasurol o oes Edward. Yn sgîl ymgyrchoedd llwyddiannus Edward I yn yr ardal yn y 13eg ganrif, crëwyd bwrdeistref Seisnig yn Ninbych o 1282 ymlaen. Adeiladodd ar ben yr hyn a oedd yn gadarnle traddodiadol Cymreig. Wrth wneud hynny, sicrhaodd fod olion Dafydd ap Gruffudd, y deiliad blaenorol anlwcus, yn cael eu gwaredu am byth.

Rhoddwyd y cyfrifoldeb o reoli’r ardal i Henry de Lacy, un o gadlywyddion ffyddlon y Brenin, a chafodd y dasg o adeiladu’r castell newydd. Ni allai fethu gyda meistr saer maen y brenin, James of St George, yn ei gynorthwyo. Fodd bynnag, ni fu’r gwaith yn hollol ddidrafferth. Cipiwyd y castell yn 1294 tra’r oedd yn cael ei adeiladu yn dilyn gwrthryfel Cymreig o dan arweiniad Madog ap Llywelyn, ond nid oedd yn hir cyn i Edward ailafael arno a pharhau â’r rhaglen adeiladu. Gellir gweld dau gam y gwaith adeiladu. Nodir y gwaith a wnaethpwyd ar ôl y gwrthryfel gan gerrig o liw gwahanol, llenfuriau tewach a thyrau onglog fel y rhai a geir yng Nghaernarfon.

Mae Dinbych yn un o wyth safle a ddewiswyd gan Cadw fel canolfan ar gyfer prosiectau cymunedol i gefnogi dathliadau’r Olympiad Diwylliannol yng Nghymru.

Amseroedd a phrisiau cyfredol

Dyddiadau
29 Mawrth - 31 Hydref 2013

Amseroedd
Bob dydd 10.00am - 5.00pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Prisiau
Oedolyn - £3.50
Teulu - £10.50*
Pensiynwyr, myfyrwyr a phlant o dan 16 - £2.65
Pobl anabl a chydymaith - Am ddim/Free

*2 oedolyn a phob plentyn o dan 16 oed

Prisiau’n ddilys tan 31 Mawrth 2014

Gweld yr holl amseroedd agor a phrisiau »

Cyfleusterau a gwybodaeth

Cyfleuster newid cewynnau Safleoedd gadael beic Maes parcio Croesewir cŵn Arddangosfa Siop rhoddion Dim ysmygu Dolen sain gludadwy Toiledau
  • Rhaid i blant o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn
  • Croesewir cŵn ar denynnau
  • Dim ysmygu
  • Mae tŷ bach ar gael i bobl sydd ag anabledd neu sy'n ei chael yn anodd symud o gwmpas
Gweld yr holl wybodaeth i ymwelwyr »
Nid yw Javascript yn gweithio ar y porwr hwn ac ni ellir dangos y map. I weld y map, trowch Javascript ymlaen a diweddarwch y dudalen.

Cyfarwyddiadau

Cod post LL16 3NB

Car Ffordd Dinbych ar yr A525, A543 neu’r B5382.

Rheilffordd Rheilffordd 12km/7.5mllr Abergele, Llandudno-Caer.

???locationMapDirections.directions.bus.image_alt??? Bws 300m/330llath, llwybr Rhif 151/152, y Rhyl/Dinbych.

???locationMapDirections.directions.bike.image_alt??? Beic NCN Llwybr Rhif 5 (17km/11mllr).

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0871 200 2233 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 08457 48 49 50.