Os credwch fod drysau modern yn para oes, meddyliwch eto. Mae gan Gas-gwent y drysau castell hynaf yn Ewrop. Mae pob un ohonynt wedi’i wneud o bren ac yn 800 mlwydd oed. Hyd at 1962, roedd y drysau hyn i’w gweld wrth y prif borth, ond maent bellach yn cael eu cadw’n ddiogel yn yr arddangosfa ar y safle. Byddai’n amhosibl canfod drysau newydd cystal i’w rhoi yn eu lle.
Mae’r safle cyfan yn wers mewn hirhoedledd. O tua 1067 i 1690, newidiodd ymddangosiad y castell drwy’r cyfnod i gyd-fynd â’r bensaernïaeth filwrol ddiweddaraf.
Dros y canrifoedd, parhaodd y castell i dyfu ar hyd crib gul y clogwyn. Yr adeilad hynaf yw’r tŵr mawr Normanaidd ond parhaodd y gwaith adeiladu ymhell i mewn i’r 17eg ganrif wrth i furfylchau canoloesol gael eu disodli gan ragfuriau cryfach ar gyfer tanio mysgedi. Roedd bwa a saeth yn perthyn i’r oes a fu!
Mae problemau mynediad i ymwelwyr ag anawsterau symudedd hefyd yn perthyn i’r oes a fu diolch i’r gwelliannau a wnaed i’r llwybr sy’n arwain at y brif fynedfa a’n sgwter symudedd.
Mae Siambr yr Iarll ar gau ar gyfer gwaith atgyweirio hanfodol. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir.
Dyddiadau
1 Mawrth - 30 Mehefin 2013
Amseroedd
Bob dydd 9.30am - 5.00pm
Mynediad olaf 30 munud cyn cau
Prisiau
Oedolyn - £4.50
Teulu - £13.50*
Pensiynwyr, myfyrwyr a phlant o dan 16 - £3.40
Pobl anabl a chydymaith - Am ddim/Free
*2 oedolyn a phob plentyn o dan 16 oed
Cod post NP16 5EY
Ffordd O Gaerdydd M4, Cyff 23, M48 Cyff 2, A466. O Lundain M4, Cyff 21 a’r M48.
Rheilffordd Cas-gwent 1km/0.6mllr llwybr Caerdydd-Caerloyw-Birmingham.
Beic NCN Llwybr Rhif 4 (200m/219llath).
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0871 200 2233 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 08457 48 49 50.