Er mai ar sylfeini hynafol y saif Castell Coch, mae’n gymharol fodern, yn gynnyrch dychymyg byw oes Fictoria a chyfoeth dirifedi. Roedd pobl oes Fictoria yn ymddiddori gymaint yn y canol oesoedd ag yr ydym ni’n ei wneud ynddynt hwy heddiw. Arddull Uwch Gothig oedd yn mynd â’u bryd.
Rhoddwyd rhwydd hynt i’r athrylith ecsentrig William Burges gan ei dâl-feistr, John Patrick Crichton-Stuart, 3ydd ardalydd Bute, i greu encilfa wledig fel cymar i’w brif gartref, Castell Caerdydd. Aeth i’r afael â’r gwaith hwnnw ag awch. Sicrhaodd fod y castell yn llawn nenfydau rhyfeddol a dodrefn anhygoel.
Mae lluniadau pensaernïol manwl wedi goroesi hyd heddiw ac yn dilyn marwolaeth Burges yn 1881, parhaodd ei gydweithwyr i weithio ar du mewn y castell am ddeng mlynedd arall. Nid oedd y castell yn addas i fod yn gartref parhaol, ac nid oedd hynny’n fwriad. Anfynych y byddai’r teulu yn ymweld â’r lle.
Credwn y byddai Burges yn cymeradwyo’r gwaith cadwraeth a wnaed gennym hyd yma, ac fel yntau, nid oes gennym ofn manteisio ar y technolegau diweddaraf. Mae adnoddau aml-synhwyrol yn sicrhau y gellir archwilio’r safle’n hawdd gan ddefnyddio technoleg sgrîn-gyffwrdd, sydd o fudd arbennig i’n hymwelwyr sydd ag anableddau synhwyrol neu gorfforol.
Dyddiadau
1 Mawrth - 30 Mehefin 2013
Amseroedd
Bod dydd 9.30am - 5.00pm
Mynediad olaf 30 munud cyn cau
Prisiau
Oedolyn - £4.50
Teulu - £13.50
Pensiynwyr, myfyrwyr a phlant o dan 16 - £3.40
Pobl anabl a chydymaith - Am ddim/Free
*2 oedolyn a phob plentyn o dan 16 oed
Cod post CF15 7JS
Ffordd M4 (Cyff 32), A470 yna dilynwch yr arwyddion.
Rheilffordd 2.5km/1.5mllr Ffynnon Taf, llwybr Caerdydd-Ffynnon Taf/Merthyr Tudful/ Aberdâr/Treherbert.
Bws 1km/0.6mllr Tongwynlais, llwybr Rhif 26, Caerdydd-Tongwynlais/Tredegar neu lwybr Rhif 132 Caerdydd-Tongwynlais-Maerdy.
Beic NCN Llwybr Rhif 8, Taith Taf.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0871 200 2233 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 08457 48 49 50.