Mynd i'r cynnwys

Castell Caernarfon

Castell Caernarfon

Wedi’r holl flynyddoedd, nid yw cryfder anhygoel castell Caernarfon wedi pylu.

Cawres o gaer. Mae cadernid anhygoel Castell Caernarfon yn bresenoldeb bygythiol. Byddai ymosod ar y strwythur enfawr hwn wedi bod yn syniad brawychus. Drwy ddefnyddio carreg i bwysleisio ei awdurdod, creodd y Brenin Edward I un o’r cestyll mwyaf trawiadol yng Nghymru. Yn gwbl haeddiannol o statws Treftadaeth y Byd.

Tyrau crwn sy’n nodweddu’r rhan fwyaf o gestyll, ond nid Caernarfon! Tyrau polygon a welir yma, gyda Thŵr yr Eryr yn goron arnynt. Sylwch hefyd ar y ffordd mae’r cerrig wedi’u trefnu’n ofalus mewn bandiau lliw.

Nid ar ddamwain y dewiswyd lleoliad y castell mawreddog hwn. Castell mwnt a beili Normanaidd a welwyd ar y safle yn flaenorol, a chyn hynny safai caer Rufeinig gerllaw. Roedd atynfa’r dŵr a mynediad hawdd i’r môr yn golygu bod glannau Afon Seiont yn fan delfrydol ar gyfer y cawr hwn o gastell a adeiladwyd gan Edward.

Nid oedd Edward yn un i golli cyfle i atgyfnerthu ei afael ar y boblogaeth frodorol. Roedd genedigaeth ei fab, Tywysog Seisnig cyntaf Cymru, yn y castell yn 1284, yn ffordd berffaith o ddangos ei oruchafiaeth. Yn 1969, cafodd Tywysog presennol Cymru, EUB Tywysog Siarl ei arwisgo yma.

Am fwy o wybodaeth am bethau i'w gweld a'u gwneud yn yr ardal ewch i www.attractionsofsnowdonia.com/cymraeg

Amseroedd a phrisiau cyfredol

Dyddiadau
1 Mawrth - 30 Mehefin 2013

Amseroedd
Bob dydd 9.30am - 5.00pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Prisiau
Oedolyn - £6.00
Teulu - £18.00
Pensiynwyr, myfyrwyr a phlant o dan 16 - £4.50
Pobl anabl a chydymaith - Am ddim/Free

*2 oedolyn a phob plentyn o dan 16 oed

Gweld yr holl amseroedd agor a phrisiau »

Cyfleusterau a gwybodaeth

Mynediad i bobl anabl Arddangosfa Siop rhoddion Dim ysmygu Maes parcio â thâl Dolen sain gludadwy Cyflwyniad fideo
  • Prisiau’n ddilys tan 31 Mawrth 2014
  • Cŵn cymorth yn unig
  • Dim ysmygu

Gweld yr holl wybodaeth i ymwelwyr »
Nid yw Javascript yn gweithio ar y porwr hwn ac ni ellir dangos y map. I weld y map, trowch Javascript ymlaen a diweddarwch y dudalen.

Cyfarwyddiadau

Cod post LL55 2AY

Car Ffordd A4085, A487(T), B4366.

Rheilffordd Rheilffordd 16km/10mllr Bangor, llwybr Crewe-Bangor/Caergybi.

???locationMapDirections.directions.bus.image_alt??? Bws 200m/220llath Caernarfon Pen Llŷn, llwybr Rhif 5/5A/5B, Bangor-Caernarfon.

???locationMapDirections.directions.bike.image_alt??? Beic NCN Llwybr Rhif 8 Ar y Llwybr.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0871 200 2233 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 08457 48 49 50.