Mynd i'r cynnwys

Gwybodaeth Ychwanegol

Caiff pob ymwelydd anabl a'i gydymaith neu ofalwr fynediad am ddim i'r holl henebion.

Mae mynediad ar lefel y ddaear ar gael i ymwelwyr â symudedd cyfyngedig mewn llawer o safleoedd.

Caniateir cŵn cymorth ym mhob un o safleoedd Cadw.

Ceir lleoedd parcio penodedig i ymwelwyr anabl mewn nifer o safleoedd.

Mae sgwteri a chadeiriau olwyn â modur ar gael yn sawl un o'n safleoedd.

Yn y rhan fwyaf o achosion, mae gwybodaeth bellach, help a chyngor ar fynediad a chyfleusterau ar gael gan geidwaid yr henebion.

Ffoniwch y safle yr hoffwch ymweld ag ef i gael y wybodaeth ddiweddaraf am fynediad i bob ymwelydd.

I gael gwybodaeth am henebion eraill, cysylltwch â'r Gwasanaethau Ymwelwyr a Busnes ym Mhencadlys Cadw : ffoniwch 01443 33 6000 neu e-bostiwch cadw@wales.gsi.gov.uk

Gallwch hefyd fynd i'r tudalennau Diwrnodau Allan sy'n rhoi gwybodaeth benodol am fynediad i lawer o'n safleoedd.