Ydych chi'n chwilio am ddiwrnod allan gwahanol i'r teulu? Mae Cadw yn cynnig amrywiaeth o leoedd cyffrous i ymweld â nhw yn eich ardal chi.
Mae gennym rai o'r cestyll gorau yn y byd yng Nghymru, a rhai o'r harddaf hefyd. Mae gennym abatai, eglwysi a chapeli a rhai o'r henebion mwyaf hudolus y mae ymwelwyr wedi bod yn chwilio amdanynt ers miloedd o flynyddoedd.
Mae gennym henebion sy'n ein hatgoffa o dreftadaeth falch Cymru fel un o wledydd diwydiannol cyntaf y byd a safleoedd sy'n adrodd straeon tywysogion canoloesol Cymru.
Ac nawr rydym yn dod â'r straeon hyn ynghyd er mwyn i chi allu darganfod mwy am hanes cyfoethog Cymru a'r hyn sy'n ei gwneud yn arbennig ac yn unigryw i bob un ohonom. Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y datblygiadau.
22 Mai 2013
A Midsummer Night's Dream23 Mai 2013
A Midsummer Night's Dream23 Mai 2013
A Midsummer Night's Dream
Ddim yn siŵr lle i fynd? Defnyddiwch ein map rhyngweithiol i ddod o hyd i'r safle Cadw sydd agosaf atoch. Mae 128 i ddewis ohonynt ac mae llawer ar agor am ddim. Gallwch bori yn ôl enw neu'r math o heneb.
Mwy o wybodaeth »
Mae Tocyn Crwydro yn rhoi mynediad am ddim i chi i fwy na 30 o gestyll ac atyniadau hanesyddol gwych sydd yng ngofal Cadw. Bydd gennych ryddid i ymweld â chymaint o atyniadau ag y dymunwch naill ai am 3 diwrnod mewn unrhyw 7, neu 7 diwrnod mewn unrhyw 14.
Er mwyn helpu pobl i ddeall ac i ofalu am eu lle a'u hanes, rydym am i bawb allu rhannu yn ein treftadaeth gyfoethog - hyd yn oed os nad yw llefydd ar agor i ymwelwyr fel arfer - felly rydym yn gofyn i dderbynyddion grantiau ganiatáu mynediad am 10 mlynedd ar ôl y taliad grant cyntaf.
Mwy o wybodaeth »