Mynd i'r cynnwys

App ffôn symudol Cadw

App ffôn symudol Cadw

Delwedd: App ffôn symudol Cadw

Darganfyddwch 6,000 o flynyddoedd o hanes ledled y wlad gydag app Cadw. Gallwch baratoi ar gyfer eich ymweliad yn gyflym a hawdd!

Edrychwch am y safle Cadw sydd agosaf atoch, dewch o hyd iddo ar y map neu, yn syml, defnyddiwch y cynllunydd llwybr i gael gweld sut i gyrraedd eich hoff safle o'ch lleoliad presennol. Gallwch chwilio yn ôl dyddiad neu leoliad i weld pa ddigwyddiadau cyffrous sy'n cael eu cynnal ar safleoedd Cadw, yr amseroedd agor a phrisiau mynediad neu ffonio'r safle yn uniongyrchol o'r app.

Nodweddion eraill yr app:  

• Disgrifiadau o safleoedd i gael gwybod mwy am eich hoff safleoedd
• Orielau o luniau ar safleoedd mwy
• Dolen i gofrestru er mwyn derbyn e-gylchlythyr misol Cadw i gael gwybod am y newyddion, digwyddiadau a chynigion arbennig diweddaraf
• Cyfryngau cymdeithasol Cadw er mwyn rhoi gwybod i'ch dilynwyr am eich profiadau yn un o safleoedd Cadw

Lawrlwythwch nawr AM DDIM i iPhone neu Android.

Peidiwch ag anghofio rhoi adborth i ni, boed yn yr App Store neu'r Android Market Place, neu ar ein tudalennau Facebook a Twitter. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.