Swyddi Gwag
Recriwtio - Swyddi Gwag
Mae gweithio i Cadw yn gyfle i feithrin gwybodaeth am y sectorau treftadaeth a thwristiaeth yng Nghymru. Yma, gallwch feithrin dealltwriaeth wirioneddol o fusnes craidd a chyfrifoldebau allweddol ein gwasanaeth treftadaeth, a chael profiad uniongyrchol ohonynt.
Fel rhan o Lywodraeth Cymru cynigiwn lawer o fuddiannau, yn cynnwys cyfleoedd hyfforddi helaeth i ddatblygu ein staff, gweithio hyblyg (ar gael i rai), cynlluniau pensiwn ac wrth gwrs y cyfle i fod yn rhan o dîm ymroddedig sy'n falch o fod yn gweithio i'r prif sefydliad treftadaeth yng Nghymru.
Mae Cadw yn cynnig cyfleoedd gyrfaol mewn lleoliadau ledled Cymru, ac mae ganddo dimau sy'n ymdrin â'r canlynol:
- Rhaglenni gwarchod treftadaeth.
- Cynllunio a gwneud gwaith cadwraeth a chynnal a chadw drwy Cadwraeth Cymru a chontractwyr allanol.
- Dylunio, cynnal a chadw a rheoli mynediad cyhoeddus a chyfleusterau i ymwelwyr yn yr eiddo rydym yn gofalu amdanynt.
- Rheoli'r safleoedd sydd yng ngofal Cadw, yn cynnwys staffio, gweithrediadau o ddydd i ddydd, gwaith cynnal a chadw cylchol a materion diogelwch ar safleoedd.
- Sicrhau'r cyfranogiad, y ddealltwriaeth a'r gwerthfawrogiad mwyaf posibl gan y cyhoedd o amgylchedd hanesyddol Cymru drwy reoli a hyrwyddo mynediad i wybodaeth am yr amgylchedd hanesyddol a gwella'r ddealltwriaeth o amgylchedd hanesyddol Cymru drwy ddehongli, dysgu gydol oes, cyhoeddiadau a gwasanaethau.
- Rheoli cyllidebau pob prosiect a phob rhaglen cynnal a chadw.
- Materion rheoli cyfleusterau ac ystadau, yn cynnwys materion cyfreithiol/rheoli tir, cofnodi data am safleoedd a chydgysylltu astudiaethau sy'n bodoli eisoes ac astudiaethau newydd a chamau gweithredu sy'n ymwneud â mynediad yn unol â'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, nodi peryglon, materion ecolegol, peryglon tân, rheoli asedau a thrychinebau a diogelwch ar safleoedd.
- Cyflawni'r Prosiect Twristiaeth Treftadaeth a ariennir drwy arian Cydgyfeirio'r Undeb Ewropeaidd.
Er mwyn cyflawni'r cyfrifoldebau allweddol hyn rydym yn cyflogi ystod eang o staff megis:
- Staff proffesiynol - archeolegwyr a phenseiri cadwraeth sy'n cynghori, yn arwain ac yn rheoli ein prosiectau a'n rhaglenni.
- Arbenigwyr ym meysydd cyhoeddi, marchnata a dehongli sy'n goruchwylio'r wybodaeth ar ein gwefannau, tywyslyfrau, llyfrau hanes, llyfrynnau arweiniad cyffredinol, gwybodaeth am safleoedd a gwaith hyrwyddo Cadw.
- Ceidwaid sy'n rheoli'r safleoedd o ddydd i ddydd.
- Crefftwyr - seiri maen a seiri coed medrus sy'n ymgymryd â gwaith cynnal a chadw.
- Staff gweinyddol sy'n gyfrifol am weithrediadau y tu ôl i'r llenni gan gynnwys trefnu ein digwyddiadau, contractau, cyllid ac ati.
Oherwydd natur amrywiol y swyddi a gynigir gennym nid oes raid i chi feddu ar gymwysterau i ymuno â ni, a chewch y cyfle i gael hyfforddiant, astudio a datblygu.
Gellir dod o hyd i fanylion recriwtio allanol a chyfleoedd gyrfaol ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru, yn cynnwys Cadw, drwy fynd i dudalen recriwtio gwefan Llywodraeth Cymru www.cymru.gov.uk.
Mae gwybodaeth am yrfaoedd yn y Gwasanaeth Sifil a recriwtio ar gael yn http://www.civilservice.gov.uk/
Nid ydym yn recriwtio'n aml nac yn rheolaidd ar hyn o bryd, a dim ond ceisiadau sy'n ymateb i hysbysebion unigol y gallwn eu derbyn. Fodd bynnag, pe baem yn recriwtio byddem fel arfer yn disgwyl hysbysebu drwy wefan Llywodraeth Cymru, y Ganolfan Gwaith neu'r wasg leol, ac yn y wasg genedlaethol ac mewn cyhoeddiadau arbennig mewn rhai achosion.