Delwedd: Crochanau a Ffwrneisi - Mantell, Castell Dinbych
Cynhelir Mantell ddydd Sul 8 Gorffennaf 2012 a 6.30pm-10.00pm, Castell Dinbych.
Un fantell euraid chwedlonol. Miloedd o atgofion euraid.
Mae Mantell yn adrodd hanes arwrol sy'n debyg i'r Odyseia gan Homer neu efallai Jason
a'r Cnu Aur. Stori gyfareddol ydyw a ysbrydolwyd gan gyfoeth cynhanesyddol gogledd-ddwyrain Cymru ac Ynysoedd Prydain.
Yn y pen draw, stori am chwilio am aur ydyw a ysbrydolwyd gan Fantell Aur yr Wyddgrug, sef y gwrthrych aur cynhanesyddol mwyaf a ddarganfuwyd hyd yma yn yr ynysoedd hyn. Gallwch weld y Fantell, y soniwyd amdani yn ddiweddar yn y rhaglen History of the World in 100 Objects ar BBC Radio 4, yn ei chartref yn yr Amgueddfa Brydeinig.
Caiff hanes y fantell ryfeddol hon ei hadrodd mewn cyfres o ddigwyddiadau y tu allan a'r tu mewn i furiau'r castell. Ar ôl cyrraedd y castell, caiff cynulleidfaoedd eu cyfareddu gan raglen orlawn o chwedleua, pypedwaith, animeiddio, dawns a cherflunio tân, - y maent oll yn cyfuno i greu diweddglo ysblennydd. Taith i'w thrysori fydd Mantell wrth i fydoedd creadigol gwahanol gyfuno, gan greu profiad unigryw, angerddol.
Rheolir y prosiect gan Gyngor Sir Ddinbych ac fe'i harweinir gan Sean Harris a Michael Harvey, enillwyr gwobr Creative Wales. Mae Crochan a Ffwrnais yn rhan o Grym y Fflam. Ariennir Grym y Fflam gan Legacy Trust UK, elusen annibynnol a sefydlwyd i greu treftadaeth ddiwylliannol a chwaraeon barhaol o Gemau Olympaidd a Pharalympaidd 2012 yn Llundain ledled y DU.
Mae archebu yn hanfodol.
Tocynnau ar gael o ddydd Mawrth 1 Mai - Llyfrgell y Dinbych 01745 816313.
Mae'r digwyddiadau yn addas i bob oedran.
www.mantell-aur.com
Dilynwch y daith ar-lein #CF12