Mynd i'r cynnwys

Cipio’r Castell

Cynfas trawiadol a wnaed ar gyfer Cipio'r Castell yng Nghaernarfon yn ystod y Prosiect Graffiti Cyfiawnder Ieuenctid

Delwedd: Cynfas trawiadol a wnaed ar gyfer Cipio'r Castell yng Nghaernarfon yn ystod y Prosiect Graffiti Cyfiawnder Ieuenctid

Cynhelir Cipio'r Castell ddydd Sul 1 Gorffennaf 2012.

Gorymdaith gerddorol ysblennydd i ddechrau mis o ddathliadau artistig.

Caer anferthol sydd yn bendant am dynnu sylw ato'i hun. Mewn ymateb, mae Cipio'r Castell yn gyfres hynod wreiddiol o osodiadau a pherfformiadau byw sy'n nodi'r adeg y cipiwyd y castell gan y 'cofis' (pobl Caernarfon). Bydd ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd yn gallu gweld y castell drwy lygaid pobl ifanc leol. Bydd cannoedd o blant ysgol lleol yn dechrau'r dathliadau ddydd Sul 1 Gorffennaf wrth iddynt ddod o bob cyfeiriad i ymgynnull ar y Maes gerllaw'r Castell. Dilynir hyn gan jamborî cerddorol heb ei ail.

Dylai'r rhai sy'n disgwyl arlwy draddodiadol feddwl eto. O rap i ffilm caiff popeth a welwch ei ysbrydoli gan ddiwylliant a threftadaeth y castell a'r ardal leol. Caiff allwedd enfawr ei chludo i borth y castell i nodi'r agoriad ffurfiol a cheir ffanffer gyfun o ragfuriau'r castell. Ar ôl mynd i mewn i'r castell bydd y sioe yn parhau â cherddoriaeth gerddorfaol a chorawl a cherddoriaeth rap a gomisiynwyd yn arbennig, theatr fyw a chyfres o osodiadau celf arloesol o fewn muriau'r castell.

O'r diwrnod hwnnw ymlaen, ac am y cyfan o fis Gorffennaf, caiff ymwelwyr â'r castell eu syfrdanu gan gelfwaith ffraeth sy'n britho'r safle drwyddo draw. Comisiynwyd 12 o artistiaid i weithio gyda phlant i ymateb i hanes y castell. Y canlyniad yw arddangosfa flaengar arloesol o graffiti, gosodiadau sain, caleidosgopau, pebyll, animeiddio, ffilm a hyd yn oed arwisgiad byrfyfyr!

Mae prosiect Cipio’r Castell , a reolir gan Gyngor Gwynedd, yn brosiect celfyddydau cymunedol sy'n cynnwys plant a phobl ifanc o Arfon a Môn mewn rhaglen liwgar o weithgarwch celfyddydol cyfranogol. Mae cyfres o weithgareddau gyda phartneriaid megis y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, ysgolion lleol a chanolfannau celfyddydau a gynhaliwyd yn ystod y 18 mis diwethaf, ac a fu'n gweithio o dan gyfarwyddyd artistiaid creadigol proffesiynol, yn cyrraedd uchafbwynt gyda'r dathliad mawreddog hwn o ddoniau creadigol amrywiol pobl ifanc yr ardal.  

Mae Crochan a Ffwrnais yn rhan o Grym y Fflam. Ariennir Grym y Fflam gan Legacy Trust UK, elusen annibynnol a sefydlwyd i greu treftadaeth ddiwylliannol a chwaraeon barhaol o Gemau Olympaidd a Pharalympaidd 2012 yn Llundain ledled y DU.

Mae'r digwyddiadau yn addas i bob oedran. Rhaid i blant o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn. Y prisiau ac amserau mynediad arferol i Gastell Caernarfon.

Y prisiau ac amserau mynediad arferol i Gastell Caernarfon.

Mynediad am ddim â band llawes Cipio'r Castell.

Bydd bandiau llawes Cipio'r Castell ar gael o 1 Mehefin. Ewch i www.visitsnowdonia.info neu drwy ymweld â:

Canolfan Croeso Caernarfon Oriel Pendeitsch
Stryd y Castell
Caernarfon  LL55 1SE   
Ff: 01286 672232
Ffacs: 01286 676476 


Dydd Sul 1 Gorffennaf 2012

2.30pm - Yr orymdaith yn dechrau o sgwâr y Castell
3.00pm - Cerddoriaeth a Theatr Fyw
4.30pm – Diwedd

Gosodiadau celf
Dydd Sul 1-28 Gorffennaf 2012

Castell Caernarfon
Pen Deitsch
Caernarfon
Gwynedd
LL55 2AY

Dilynwch y daith ar-lein #CF12