Mynd i'r cynnwys

Ymarfer Asesu Amgylchedd Hanesyddol Cymru

Cynhaliwyd Ymarfer Asesu Amgylchedd Hanesyddol Cymru ar gais y cyn Weinidog Treftadaeth. Ei nod oedd ystyried rolau a gweithgareddau nifer o gyrff allweddol sy'n ymwneud â'r amgylchedd hanesyddol a ariennir gan y llywodraeth, a nodi unrhyw achosion o ddyblygu gweithgareddau a meysydd lle gellir cael mwy o gydweithio neu lle dylid cael mwy o wahanu rhwng swyddogaethau. Y sefydliadau allweddol a oedd wedi'u cynnwys yn yr ymarfer oedd Cadw, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC) a'r pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol yng Nghymru. Y meysydd penodol a aseswyd oedd arolygu ac ymchwilio, cofnodion ac archifau, ac ymgysylltu â'r cyhoedd.

Cadw fu'n gyfrifol am gydgysylltu'r ymarfer, a phenodwyd y Cyngor Archaeoleg Brydeinig fel sefydliad annibynnol ym maes yr amgylchedd hanesyddol i gynnal yr ymarfer asesu, gan ddwyn ynghyd dîm bach o ymgynghorwyr at y diben hwn. Mae'r Cyngor Archaeoleg Brydeinig yn elusen sy'n gweithredu ledled y DU, a fu'n hyrwyddo diddordeb y cyhoedd mewn archeoleg ers dros 65 mlynedd. Mae'n gymdeithas amwynder cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr ac yn un o'r prif eiriolwyr dros ddiogelu'r amgylchedd hanesyddol, ac ymchwilio iddo.

Cynhaliwyd yr ymarfer rhwng mis Ionawr a Mawrth 2011, gan gynnwys cyfweliadau ag uwch swyddogion pob un o'r sefydliadau ac ymgynghori ag ystod eang o sefydliadau cysylltiedig. Sefydlwyd panel defnyddwyr a oedd yn cynnwys cyfranogwyr a enwebwyd gan Cadw, CBHC a'r pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol yng Nghymru i gynrychioli defnyddwyr cyhoeddus a phreifat amrywiol gwasanaethau'r amgylchedd hanesyddol.

Gellir gweld manylion Ymarfer Asesu Amgylchedd Hanesyddol Cymru ac ymatebion dilynol nifer o'r sefydliadau a oedd yn rhan o'r ymarfer isod.