Athroniaeth Cadw yw gweithio gyda phartneriaid pryd bynnag y bo'n bosibl, gan fod hyn yn arwain at ganlyniadau mwy ystyrlon. Rydym yn gweithio gyda nifer o sefydliadau sy'n gweithredu ledled Cymru ond rydym hefyd yn gweithio gyda llawer o bartneriaid rhanbarthol neu leol.
Mae partneriaethau yn helpu i lywio'r blaenoriaethau a'r polisïau sy'n sail i lawer o'r hyn y mae Cadw yn ei wneud. Mae hyn yn cynnwys gwarchod treftadaeth; mynediad cyhoeddus; hyrwyddo twristiaeth treftadaeth, addysg a dysgu gydol oes. Y Grŵp Amgylchedd Hanesyddol yw'r prif fforwm partneriaeth ar gyfer y sector treftadaeth yng Nghymru.
Mae partneriaethau ffurfiol yn bodoli er mwyn cyflawni meysydd gwaith pwysig a pharhaus. Datblygir partneriaethau newydd eraill i helpu i gynllunio a chyflawni blaenoriaethau sy'n dod i'r amlwg megis treftadaeth a'r celfyddydau; twristiaeth ddiwylliannol a thwristiaeth treftadaeth.
Mae Cadw hefyd yn chwarae rhan weithredol mewn llawer o bartneriaethau lleol a rhanbarthol, yn enwedig y rheini sy'n cyflawni prosiectau neu fentrau penodol sy'n gysylltiedig â ffynonellau cyllid allanol pwysig megis y Prosiect Twristiaeth Treftadaeth a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd.
Caiff llawer o waith Cadw ei gynllunio neu ei gyflawni mewn partneriaeth â sefydliadau eraill o'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r sector gwirfoddol. Y Grwp Amgylchedd Hanesyddol yw prif fforwm Cadw ar gyfer gweithio mewn partneriaeth â'r sector treftadaeth yng Nghymru. Yn ogystal, mae Cadw yn cydgysylltu ag arbenigwyr awdurdodau lleol a'r trydydd sector drwy'r Fforwm Treftadaeth Adeiledig.
Mwy o wybodaeth »
Mae Cadw yn dyfeisio prosiectau arbennig i fynd i'r afael â llawer o faterion sy'n peri pryder i'r sector treftadaeth. Mae prosiectau mawr megis y Prosiect Twristiaeth Treftadaeth a'r prosiect Crochanau a Ffwrneisi yn rhoi'r cyfle i gyflawni llawer mewn cyfnod byr. Mae rhai prosiectau'n denu cyllid allanol, er enghraifft, o'r Undeb Ewropeaidd.
Mwy o wybodaeth »
Mae llawer o brosiectau a rhaglenni Cadw yn cyfrannu at ein dealltwriaeth o orffennol Cymru. Rydym yn gwneud gwaith ymchwil uniongyrchol ar yr eiddo sydd yn ein gofal, naill ai i lywio ac ategu ein rhaglen cadwraeth a chynnal a chadw barhaus, neu i gefnogi ein gweithgareddau dehongli a chyflwyno.
Mwy o wybodaeth »