Delwedd: Castell Conwy
Wrth gynllunio'r gwyliau perffaith, mae rhywfaint o hyblygrwydd bob amser yn beth da. Pwy a ŵyr beth fydd ar droed neu pa fath o dywydd fydd hi? Rydyn ni yng Nghymru wedi'r cwbwl.
Un peth y gallwch ddibynnu arno yw tocynnau crwydro 3 neu 7 diwrnod Cadw. Mae'r tocynnau'n cynnig gwerth gwych am arian ac yn rhoi rhwydd hynt i chi ymweld â'r cyfoeth o atyniadau hanesyddol sydd gan Gymru i'w cynnig. Mae'r tocynnau yn rhoi'r rhyddid i grwpiau ymweld â chymaint o atyniadau hanesyddol Cadw ag y dymunant, neu y gallant o fewn yr amser sydd ar gael iddynt, yn ystod ymweliad â Chymru.* Gellir defnyddio'r tocyn 3 diwrnod mewn unrhyw gyfnod o 7 diwrnod a'r tocyn 7 diwrnod mewn unrhyw gyfnod o 14 diwrnod.
Po fwyaf y defnyddir y tocyn, y mwyaf fydd yr arbedion. Gallwch chi, fel trefnwyr teithiau, ennill hyd at 25% mewn comisiwn hefyd.
Mae'r Tocynnau Crwydro ar gael i'w gwerthu gan gwmnïau naill ai fel tocynnau crwydro i un oedolyn, dau oedolyn neu deulu.
Gall unigolion brynu'r tocynnau crwydro yn uniongyrchol o bob safle â staff yn gweithio arnynt.
Mae prisiau manwerthu a masnach fel a ganlyn:
Prisiau Manwerthu
UN OEDOLYN DAU OEDOLYN TEULU**
TOCYN 3 DIWRNOD £15.20 £23.50 £32
TOCYN 7 DIWRNOD £22.50 £36.50 £44.50
Pris masnach
UN OEDOLYN DAU OEDOLYN TEULU**
TOCYN 3 DIWRNOD £11.40 £17.65 £24
TOCYN 7 DIWRNOD £16.90 £27.40 £33.40
**2 oedolyn a phob plentyn/ŵyr neu wyres 16 oed ac iau.
*Abaty Glyn y Groes
Abaty Tyndyrn
Abaty Ystrad Fflur
Amgueddfa Cerrig Margam
Capel y Rug/Hen Eglwys Plwyf Llangar
Castell Biwmares
Castell Caerffili
Castell Caernarfon
Castell Carreg Cennen
Castell Cas-gwent
Castell Cilgerran
Castell Coch
Castell Conwy
Castell Cricieth
Castell Cydweli
Castell Dinbych
Castell Dolwyddelan
Castell Harlech
Castell Oxwich
Castell Rhaglan
Castell Rhuddlan
Castell Talacharn
Castell Weble
Llys a Chastell Tre-tŵr
Llys yr Esgob Llandyfái
Llys yr Esgob Tyddewi
Plas Mawr, Tŷ Trefol o oes Elisabeth
Y Castell Gwyn
I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 01443 336000 neu e-bostiwch cadw@wales.gsi.gov.uk