Delwedd: Castell Conwy
Nid yw ymweliad â Chymru yn gyflawn heb i chi ymweld ag un neu fwy o'n hatyniadau. Gallwn helpu drwy roi cyngor a gwybodaeth am bob agwedd ar eich ymweliad. Gan ein bod yn gofalu am rai o'r atyniadau hanesyddol gorau yng Nghymru, rydym mewn sefyllfa ddelfrydol i allu eich helpu.
Cynllunio ymweliadau grŵp
Mae chwilio drwy leoedd i ymweld â hwy yn fan cychwyn da. Mae'n rhoi gwybodaeth gyffredinol a phenodol am safleoedd unigol. Gall grwpiau o sefydliadau addysgol ddod o hyd i wybodaeth werthfawr yn yr adran ymweliadau addysgol. Os yw eich grŵp yn cynnwys ymwelwyr anabl, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar dudalennau'r safleoedd unigol o dan Diwrnodau Allan neu ffoniwch bencadlys Cadw ar 01443 336000 neu e-bostiwch cadw@wales.gsi.gov.uk
Os hoffech gael cyngor ac awgrymiadau am ddim ar ba safleoedd fyddai'n gweddu orau i'ch rhaglen, cysylltwch â'n desg farchnata (manylion cyswllt isod).
Ymweliadau ymgyfarwyddo am ddim
Rhowch alwad i'n desg farchnata a byddwn yn fwy na pharod i drefnu ymweliad ymgyfarwyddo â'n heiddo am ddim (manylion cyswllt isod).
Taflenni hyrwyddo am ddim
Cysylltwch â'n desg farchnata (manylion cyswllt isod).
Gwasanaeth Llyfrgell Luniau
Mae gennym amrywiaeth eang o ffotograffau o ansawdd uchel i'w llogi. Cysylltwch â llyfrgell ffotograffau Wales on View neu cysylltwch â'n desg farchnata (manylion cyswllt isod).
Tocynnau Crwydro
Gostyngiadau i grwpiau
Cynigir gostyngiad o 10% ar docynnau i oedolion a thocynnau cyfradd ostyngol i grwpiau o 15 neu fwy.
I gael pecyn am ddim i drefnydd y grŵp, cysylltwch â:
Y Ddesg Farchnata
Cadw
Plas Carew
Uned 5/7 Cefn Coed
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QQ
Ffôn: 01443 33 6000
Ffacs: 01443 33 6001
E-bost: cadw@wales.gsi.gov.uk
Y teithiwr annibynnol
Ymuno â Cadw
Mae aelodaeth Cadw yn rhoi mynediad am ddim i bob un o'r safleoedd yn ein gofal, o Gastell Caerffili, Castell Coch ac Abaty Tyndyrn yn y de i gestyll byd enwog Caernarfon a Harlech yn y gogledd. Mae aelodaeth hefyd yn golygu y cewch fynediad hanner pris i gannoedd o safleoedd yn Lloegr a'r Alban, o Gôr y Cewri i Gastell Caeredin a llawer mwy.
Mae llawer o deithwyr annibynnol yn ymuno yn ein safleoedd - mae'n syml ac yn hawdd! Ymunwch heddiw. Mae'n rhywbeth y byddwch yn ei drysori am amser maith!