Mynd i'r cynnwys

Ymweliadau ysbrydoledig

Castell Cricieth

Delwedd: Castell Cricieth

Wedi gweld y cyfan o'r blaen? Meddyliwch eto. Mae safleoedd hanesyddol Cymru yn datblygu'n barhaus.  O ganolfannau newydd i ymwelwyr i arddangosfeydd dehongli, mae rhywbeth newydd i ddal y llygad a thanio'r dychymyg bob amser.

Os yw adfeilion rhamantus yn mynd â'ch bryd, mae Castell Carreg Cennen a Chastell Llansteffan yn Sir Gaerfyrddin ymhlith y gorau. Cawsant eu cynnwys ymhlith y Deg Gorau yn y DU yng nghylchgrawn Countryfile y BBC. Mae'r ddau ychydig yn ddiarffordd ond mae'n werth ymweld â hwy dim ond i weld y golygfeydd.

Efallai nad yw tywysogion Gwynedd mor adnabyddus â'r brenhinoedd a'r breninesau o Loegr y buont yn byw ochr yn ochr â nhw ac yn ymladd yn eu herbyn, ond eu stori nhw sy'n cael y sylw. Fel rhan o brosiect dehongli newydd mawr yng ngogledd Cymru, bydd y safleoedd a'r lleoliadau hanesyddol sy'n gysylltiedig â'r llywodraethwyr brodorol hyn yn rhan o ymgyrch hyrwyddo ehangach yn yr ardal. Cyhoeddir syniadau am deithiau â thema sy'n ymwneud â'u hanes diddorol hefyd. Mae cynlluniau ar droed yn ne-orllewin Cymru i gynnal ymgyrch hyrwyddo debyg yn seiliedig ar fywyd tywysogion pwerus y Deheubarth. Bydd y newyddion diweddaraf yn ymddangos ar y tudalennau hyn cyn gynted ag y caiff y manylion eu cadarnhau.

Mae Cadw wrthi'n gweithio ar gynllun dehongli mawr ar gyfer Cymru gyfan. Cyhoeddir mwy o fanylion yn fuan, ond gallwch ddisgwyl amrywiaeth eang o ddiwrnodau allan a theithiau ysbrydoledig sy'n gysylltiedig â themâu allweddol yn hanes Cymru, o'r Rhufeiniaid i'r Chwyldro Diwydiannol.

Mae ein mapiau teithio - un ar gyfer de a gorllewin Cymru ac un arall ar gyfer canolbarth a gogledd Cymru - bob amser yn boblogaidd gyda grwpiau ac unigolion sy'n chwilio am ysbrydoliaeth wrth gynllunio taith neu wyliau. Mae copïau ar gael am ddim gan Cadw neu yn unrhyw un o'n safleoedd.

I gael mwy o syniadau ysbrydoledig, ffoniwch 01443 336000 neu e-bostiwch cadw@wales.gsi.gov.uk.